Yn D'oed a D'amser’
Yn D'oed a D'amser’
SKU:SAIN SCD2861
Mae Rhys Meirion wedi cael gwireddu breuddwyd - ’sgwennu, recordio a rhyddhau EP o’i ganeuon ei hun, a’r rheiny mewn genre roc, blŵs a baled.
Rai blynyddoedd yn ôl, teimlodd y canwr clasurol a’r cyflwynydd teledu a radio fod yna rywbeth ar goll o ran ei brofiadau cerddorol. “’Dwi wedi bod mor lwcus o fod wedi cael profiadau anhygoel hyd yma”, meddai Rhys, “o fod y prifathro ieuengaf erioed yn y wlad, i gael fy nerbyn ar gwrs Opera y Guildhall School of Music heb unrhyw gymhwyster cerdd blaenorol, a mynd yn syth yn brif denor gyda Opera Cenedlaethol Lloegr. Ges i rôls fy mreuddwydion - Rodolfo (La Boheme) Alfredo (La Traviata) Y Dug (Rigoletto) Ernani, Tamino (Magic Flute) Nemorino (L’elesir D’amore) a llawer mwy. 'Dwi wedi cael perfformio fel unawdydd mewn llefydd anhygoel – Carneigie Hall (Efrog Newydd) Tŷ Opera Sydney, Y Coliseum, Neuadd Albert, Royal Festival Hall, Queen Elizabeth Hall (Llundain), Glyndebourne a Canolfan y Mileniwm.”
Ond er hyn, ’roedd Rhys yn teimlo bod ’na le gwag a rhywbeth arall i’w gyflawni yn gerddorol. Wedi anogaeth gan Lleuwen Steffan tra’n ffilmio cyfres Deuawdau Rhys Meirion yn 2017, penderfynodd Rhys fynd amdani ac arbrofi, am y tro cyntaf erioed, efo cyfansoddi caneuon. Prynodd gitâr acwstig, ac yn ddiweddarach, wedi gwrando ar yr Eidales, Debora Morgante, yn perfformio mor wych ar y gitâr ar Canu Gyda fy Arwr, prynodd gitâr drydan, a dysgu nifer o gordiau. Yn ôl Rhys, “’dwi wedi bod yn ffan mawr ers blynyddoedd o chwaraewyr gwych yn y byd blŵs a roc, yn arbennig felly, Stevie Ray Vaughan, ac, wrth gwrs, Mike Peters, The Alarm. Erbyn cyfnod y Gwanwyn, 2022, roeddwn i’n gwybod mod i am gael cyd-berfformio efo Mike ar fy nghyfres Canu Gyda fy Arwr, felly dyma fynd ati o ddifri i ddatblygu fy sgliiau ar y gitâr.” Perfformiodd y ddau y gân ‘Cariad, Gobaith a Nerth’, a’i rhyddhau fel sengl elusennol, gyda Rhys yn serennu ar y gitâr drydan.
Erbyn Awst 2023, roedd Rhys wedi troi ei garej yn stiwdio, wedi cyfansoddi pum cân wreiddiol ac wrthi’n recordio ei lais ei hun, lleisiau cefndir Nia, ei wraig, Elan ac Erin, ei ddwy ferch ac Osian, y mab, ac am y tro cyntaf erioed roedd Rhys yn chwarae’r allweddellau a’r gitâr fas a’r gitâr drydan ar bob trac. Yna yn Stiwdio Sain, cael cyfraniadau cerddorol gan Osian Huw Williams (drymiau), Aled Wyn Hughes (bas) a’r pianydd byd enwog, Morris Pleasure. “’Dwi mor lwcus o gael dau mor brofiadol ac amryddawn ac Osian ac Aled i’m harwain ac mi ges i’r anrhydedd mwyaf hefyd o gael neb llai na fy nghyfaill Mo Pleasure i chwarae’r piano a’r allweddellau ar y gân ‘Ti’m yn byw er eu mwyn’.” Mae Mo Pleaure yn un o gerddorion amlycaf y byd ac wedi chwarae ym mandiau Michael Jackson, Janet Jackson a Bette Midler, ac wedi bod yn gyfarwyddwr cerdd neb llai na Earth Wind and Fire am dros bymtheng mlynedd.
Mae’r caneuon ar yr EP yn rai personol iawn i Rhys, a dyma ychydig o eiriau ganddo am bob un:
Da Ni Yna i Chdi
Fe gollais i fy Chwaer Elen yn mis Ebrill 2012, a fy Mam yn mis Hydref 2015. Roedd colli’r ddwy yn dipyn o glec, a’r peth mwya trist a phoenus i mi oedd y ffaith i ni eu colli’n sydyn, a doedd dim cyfle i afael yn eu llaw a diolch iddynt, a dweud wrthynt gymaint yr oeddwn yn eu caru cyn iddyn nhw fynd. Yn y gân yma rwyf yn rhoi fy hun yn y sefyllfa lle mae ‘nhad, rhyw dro yn y dyfodol, ar ei wely angau, a finnau yn cael y cyfle pwysig hwnnw i afael yn ei law a gwneud iddo sylweddoli gymaint dwi’n ei garu a’i werthfawrogi cyn iddo’n gadael ni. Roedd hi’n bleser cael Elan ac Erin fy merched yn gantorion cefndir ar hon.
Thomas Richards
Roedd yr englynwr o fri, Thomas Richards y Wern, yn hen daid i mi. Mi enillodd gystadleuaeth Yr Englyn yn Yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith – yn Pen-y-bont ar Ogwr, 1948, gyda’r Ci Defaid, un o’r englynion mwyf poblogaidd erioed, a Llangefni, 1957, gyda’r Ysgyfarnog. Ni ches i’r cyfle i’w gyfarfod oherwydd iddo farw yn 1958, ond roedd fy nain a fy mam wedi peintio pictiwr ohono ac wedi cyfleu ei ddawn a’i gymeriad i mi drwy gydol fy mhlentyndod a fy ieuenctid. Er i mi erioed ei gyfarfod, dwi’n teimlo cysylltiad cryf ag o drwy ei lyfr o englynion, “mae’n gortyn rhyngom.”
Ti’m yn Byw er eu Mwyn
Un o’r cas bethau gen i mewn pobl yw rhagfarn. Mae’n rinwedd mor negyddol sydd yn gallu amlygu ei hun mewn unigolion, mewn cymunedau, ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Pobl sydd yn beirniadu, gwawdio a gwatwar am ddim byd mwy na bod rhywbeth yn wahanol i’r arfer, yn wahanol i be’ ma’ nhw’n feddwl y dylai fod yn ‘norm’. Mae rhagfarn wedi chwalu breuddwydion, cyfyngu ar orwelion, llesgáu dychymyg a lladd brwdfrydedd ar hyd y blynyddoedd. Yn y gân yma dwi’n anog pawb i fynd amdani, bod yn wahanol gan beidio poeni am bobol rhagfarnllyd, achos, ar ddiwedd y dydd “ti’m yn byw er eu mwyn!” Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael Morris Pleassure ar y piano yn y gân Blŵs 12 Bar yma.
Fel Haul a Machlud
Yn syml iawn, cân serch i’m gwraig Nia yw hon. ’Da ni wedi priodi ers 29 o flynyddoedd, ac wrth gydfyw am gyfnod mor hir, mae dau yn dod yn un, does na’m un heb yr un arall. Does dim angen i mi ymhelaethu, mae popeth yn y gân ac yn cael ei grynhoi yn y llinell “Pob dydd mor werthfawr i ni ei rannu, mae’n heneidiau wedi’w plethu.”
Tra Ti’n Dileu dy Hanas
Un o’r pethau tristaf i mi yw gweld potensial ddim yn cael ei wireddu, a hynny heb fai ar neb, ond bod yr unigolyn ddim wedi rhoi popeth i wireddu eu breuddwydion, a chyn iddynt sylweddoli, mae’r cyfle wedi pasio. Un peth sydd wedi trawsnewid ein bywydau yn fwy na dim yn hanes dynoliaeth erioed, a hynny dros nos bron, yw’r ffonau symudol. Mae gwylio pobl yn cerdded strydoedd, yn eistedd wrth fyrddau mewn caffi neu allan am beint efo ffrindiau yn methu eu rhoi i lawr yn broblem. ’Da ni’n anghofio byw ein bywydau - “mae’r byd yn troi o’th gwmpas, tra ti’n dileu dy hanas!” Pleser cael Erin eto, a Nia, fy ngwraig, i ganu lleisiau cefndir ar hon.
TRACIAU:
- DA NI YNA I CHDI
- THOMAS RICHARDS
- TI'M YN BYW ER EU MWYN
- FEL HAUL A MACHLUD
- TRA TI'N DILEU DY HANES