Telerau gwasanaeth

Mae pob elfen o'r wefan hon yn eiddo i sainwales.com. Diogelir pob hawl.

Rhoddir caniatad i gopïo rhannau o'r wefan hon yn electronaidd ac i argraffu copi caled gyda'r unig bwrpas o osod archeb gyda sainwales.com neu i ddefnyddio'r wefan hon fel cyfrwng i siopa. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o gynnwys y wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig rhag blaen gan Sain (Recordiau) Cyf.. Mae sainwales.com a nodir ar y wefan hon yn nod masnach trwyddedig i Sain (Recordiau) Cyf.

Sainwales.com yw'r enw e-fasnachol ar Sain (Recordiau) Cyf. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni ffurfir unrhyw gytundeb rhwng y prynwr a sainwales.com trwy'r masnachu a wneir ar y wefan hon neu fel arall. I'r eithaf a ganiateir trwy gyfraith mae sainwales.com yn darparu'r wefan hon a'i chynnwys ar sail "as is" ac nid yw'n darparu gwarant o unrhyw fath. Gellir newid prisiau a manylion argaeledd y cynnyrch ar unrhyw adeg heb rybudd.

Nid yw sainwales.com na Sain (Recordiau) Cyf., nac unrhyw un o'u gweithwyr, cyfarwyddwyr nac eraill yn derbyn cyfrifoldeb am iawndal yn sgil defnyddio'r wefan hon.