Label recordio annibynnol hynaf Cymru

Recordio, Cyhoeddi, Cyd-weithio

1969

Cafodd Cwmni Sain (Recordiau) Cyf ei ffurfio yn 1969 gan Dafydd Iwan a Huw Jones. Roedd y ddau yn gantorion gwerin adnabyddus ac wedi gwneud recordiau i gwmni recordio arall, sef cwmni Teldisc.

Yn ystod y cyfnod yma, roedd gwerthiant uchel iawn i recordiau Cymraeg gan artistiaid fel Hogia’r Wyddfa, Hogia Llandegai a Tony ac Aloma.

Ond roedd Dafydd a Huw yn teimlo nad oedd digon yn cael ei wneud gan y cwmnïau recordio yn y cyfnod hwnnw i wella ansawdd recordiau Cymraeg, o’i gymharu gyda recordiau Saesneg. Yr arferiad oedd llogi neuadd am ddiwrnod a recordio’r canwr a gitâr fel ag yr oedden nhw, a dyna oedd y record orffenedig.

Roedd y canwr Meic Stevens wedi rhoi nifer o syniadau o’i brofiad fel canwr yn Lloegr, ynglŷn â’r ffordd y byddai’n recordio mewn stiwdio ‘go iawn’, a sut yr oedd mynd ati i gynhyrchu record yn iawn a gwella sŵn recordiau Cymraeg.

1969

Roedd Dafydd a Huw hefyd yn teimlo bod modd gwneud llawer i wella’r cyhoeddusrwydd oedd yn cael ei roi i recordiau newydd Cymraeg a’r dulliau o werthu o gwmpas y wlad.

Dyma benderfynu mai’r unig ffordd o sicrhau rheolaeth dros y pethau yma fyddai ffurfio cwmni newydd annibynnol, a gyda benthyciad o £500 gan eu cyfaill Brian Morgan Edwards, cafodd y record gyntaf ei chyhoeddi gan Sain.

Cafodd stiwdio yn Llundain ei llogi ym Mehefin 1969, gyda Meic Stevens yn cynhyrchu, a gyda chymorth Heather Jones ac eraill, cafodd ‘Dŵr’ gan Huw Jones ei recordio, gan greu sŵn cwbl newydd i’r byd adloniant Cymraeg. Roedd y chwyldro wedi dechrau…

Y ’70au

Bu Sain yn defnyddio sawl stiwdio yn Llundain a Bryste cyn darganfod stiwdio Rockfield yn Nhrefynwy. A’r stiwdio byd-enwog honno, yn y pen draw, a ysbrydolodd Huw a Dafydd i sefydlu stiwdio eu hunain.

Yn 1970 symudodd cwmni Sain o ystafell ffrynt Brian Morgan Edwards yn Heol Ninian, Caerdydd, i Landwrog am ychydig flynyddoedd cyn cymryd les ar hen gantîn ffatri ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes yn 1973.

Dechreuodd y cwmni gyflogi staff am y tro cyntaf, sef clerc cyfrifon, ac yna peiriannydd recordio. Cafodd stiwdio amldrac gyntaf Sain ei sefydlu mewn hen feudy ar fferm Gwernafalau yn Llandwrog yn 1975. Perchnogion y fferm oedd Osborn a Glesni Jones, a’r rhent ar gyfer y beudy neu’r ‘stiwdio’ oedd y copi cyntaf o bob record oedd yn cael ei ryddhau gan Sain.

1 o 4

1973

Yn 1973 daeth ffenomen Edward H. Dafis i dorri ar firi traddodiadol y Noson Lawen, ac o hynny ymlaen, yr oedd bwlch amlwg rhwng adloniant yr ifanc a difyrrwch y canol-oed a’r henoed. Ond ynghanol y bwrlwm newydd, artistiaid fel Hogia’r Wyddfa, Trebor Edwards a Tony ac Aloma oedd prif gynhalwyr y byd recordiau Cymraeg tan droad y ganrif. Yn raddol, fodd bynnag, roedd y to newydd o dalentau amrywiol yn amlhau, a recordiau Sain yn adlewyrchu’r cyfan oll – Mynediad am Ddim, Plethyn, Hergest, Tebot Piws, ac unigolion talentog fel Bryn Fȏn, Caryl Parry Jones, Endaf Emlyn, Heather Jones a Tecwyn Ifan – mae’r rhestr yn hirfaith, ac yn dal i dyfu.

1988-2001

Yn 1988 cafodd CRAI, sef is-label roc a phop cyntaf Sain, ei sefydlu dan ofalaeth Rhys Mwyn. Y cynnyrch cyntaf i gael ei ryddhau oedd ‘Ffidlan’ gan Y Cynghorwyr (CRAI C001). Llwyddodd y label i ddenu nifer o fandiau gan gynnwys Bob Delyn a’r Ebillion, Yr Anhrefn, Anweledig, Yr Alarm, Big Leaves, Gwacamoli, Gogz, Topper a Catatonia.

Roedd hyn yn adlewyrchu nid yn unig y math newydd o gerddoriaeth oedd yn mynd â bryd yr ifanc, ond hefyd yn rhagweld y duedd i grwpiau chwilio am hunaniaeth (a labeli) newydd, tuedd sydd wedi parhau ac amlhau ers hynny.

2001-2019

Ers agor y stiwdio 8-trac gyntaf yng Ngwernafalau yn 1974, mae Stiwdio Sain parhau i dyfu ac esblygu. Yn 1980 fe gafodd Stiwdio 1 24-trac ei hagor yn y Ganolfan newydd. Cafodd Stiwdio 2 ei hychwanegu yn 1984 (sy’n cael ei defnyddio yn bennaf heddiw fel lle ymarfer i fandiau newydd), ac yna Stiwdio 3 yn 2010. Stiwdio 3 sy’n cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer trosleisio cartwnau plant i S4C, ac mae modd ei llogi fel uned hunan-gynhaliol hefyd.

Stiwdio Sain
  • Yn 2019, dathlodd Sain ei ben-blwydd yn 50 oed gydag arddangosfa wedi’i churadu gan yr artist Manon Awst. Bu nifer o artistiaid ifanc yn helpu Manon a Catrin Williams ar faes y Brifwyl yn Llanrwst i greu rhannau o’r arddangosfa a murlun mawr o artistiaid Sain, a gwelwyd ffrwyth eu llafur yn Storiel Bangor a bellach mae’n barhaol yng Nghanolfan Sain yn Llandwrog. Mae’r murlun hefyd i’w weld ar wal allanol Canolfan Sain.

    Mae Stiwdio Sain yn cael ei rheoli erbyn hyn gan bartneriaeth sy’n cynnwys Osian ac Ifan o’r band Candelas ac Aled o Cowbois Rhos Botwnnog, a da yw dweud ei bod yn brysurach nag erioed, ac yn rhan o gynlluniau cyffrous y Sain newydd i’r dyfodol.

    Recordiau Sain yw label recordio annibynnol hynaf Cymru ac yn ddiweddar fe gafodd prosiect newydd ei lansio er mwyn digido‘r ôl-gatalog - mwy na 2,000 o recordiau - ac ailddychmygu Ganolfan Sain yn Llandwrog yn sgil prosiect newydd.

  • Mae’r 140 sengl gyntaf, ochr yn ochr ag albymau ac EPs o gerddoriaeth brotest, pop, hip hop, clasurol a gwerin dros gyfnod o bum degawd, bellach ar gael i’w ffrydio neu eu lawrlwytho ar lwyfannau masnachol.

    Cafodd llawer o’r gerddoriaeth ei recordio yng Nghanolfan Sain ger Caernarfon, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i greu gofodau cydweithio a chymunedol ochr yn ochr â’r stiwdios recordio presennol. I gyd-fynd â’r broses archifo digidol, mae cyfres o ailgyhoeddiadau ar feinyl wrthi’n cael eu paratoi.

    Trwy’r prosiect, bydd modd cadw cerddoriaeth y label ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan danio oes newydd i gerddoriaeth Cymru.