Mae’r gofod cydweithio yn cynnig lle i 4 o bobl weithio ar wahan neu fel cwmni, ac wedi’i gynnwys yn y pris mae:
Desg am y diwrnod ( neu haner diwrnod ) - opsiynau i gadw lle hir dymor ar gael
Gofod swyddfa hunangynhwysol ar gael i gwmnïau ar rent tymor hir (wedi'i gymryd ar hyn o bryd)
Parcio am ddim
Ystafell gyfarfod ar gyfer hyd at 8 unigolyn neu gyfarfodydd cwmni neu sgyrsiau preifat (neu gyfarfodydd ar-lein)
Cysylltiad trydan a WiFi
Defnydd o’r gegin
Defnydd o’r ardal cymdeithasol ( Seti cyfforddus, bwrdd Pool )
Cyfle i rwydweithio a gweithio gyda chymuned Sain
Mae modd llogi desg am:
£5 am hanner diwrnod (9-1 neu 1-5)
£10 am ddiwrnod cyfan
Yn ogystal â rhentu desgiau i weithio ohonynt, rydym ar gael i drafod rhentu swyddfeydd llawn i gwmnïau ac unigolion.
Defnyddiwch y ffurflen archebu galendr isod i gadw slotiau ar gael, neu ffoniwch Sain ar 01286 831 111 i drafod telerau, argaeledd, neu unrhyw ofynion penodol.