Polisi ad-daliad

Polisi Nwyddau: Rydym yn gobeithio y byddwch wrth eich bodd bob tro y byddwch yn prynu oddi wrthym yn sainwales.com, ond rhag ofn y byddwch angen dychwelyd nwyddau a ddanfonwyd atoch mewn camgymeriad, neu nwyddau sy'n wallus mewn unrhyw ffordd, nodir isod ein polisi.   

Nwyddau gwallus: Gellir dychwelyd unrhyw eitem o fewn 30 diwrnod i'w brynu os yw'r eitem hwnnw'n wallus. Noder: ni fyddwn yn derbyn nwyddau a ddychwelwyd wedi eu hagor oni fyddant yn wallus neu'n ddiffygiol. Byddwn yn falch o ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio.

 Costau postio ac ati: Os ydych yn dychwelyd nwyddau am eu bod yn wallus neu'n anghywir, byddwn yn falch o ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio. Mewn unrhyw achos arall, bydd y costau hynny, a chostau unrhyw wasanaeth arall a ddarperir ichi, yn disgyn arnoch chi. 

Dychwelyd eitemau: Wrth ddychwelyd unrhyw nwyddau, nodwch yn glir y rhesymau dros eu dychwelyd, paciwch nhw'n ofalus, a dychwelwch y pecyn i'r cyfeiriad isod (Mewn achos o nwyddau diffygiol, nodwch natur y diffyg, a dychwelwch yr eitem yn ei flwch gwreiddiol, os oes un):

Sain (Recordiau) Cyf., Canolfan Sain, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TG.

Er diogelwch ichi, argymhellwn eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth cofrestru. Nid yw'r polisi hwn yn effeithio eich hawliau statudol. Dalier Sylw: Os dychwelir eitem a archebwyd gennych, ac sydd heb fod yn wallus, mi fyddwch chi'n gyfrifol am y costau postio/cludo. 

Canslo eitem: O dan ddeddfau Prydain, mae gennych yr hawl i ganslo unrhyw gytundeb prynu o fewn 7 niwrnod i dderbyn y nwyddau. Mae hyn yn berthnasol i'n holl nwyddau, ond ni allwn dderbyn dileu unrhyw gytundeb ynglyn â phrynu DVD a/neu CD a seliwyd os yw'r sêl wedi ei dorri. I ddileu'r cytundeb, rhowch nodyn gyda’r eitem gan nodi'r rheswm am ei dychwelyd fel "Dileu'r Cytundeb". Paciwch yr eitem yn ofalus a'i ddychwelyd gyda'r ffurflen i'n cyrraedd o fewn saith diwrnod gwaith o'r dyddiad y cawsoch ef. Chi fydd yn gyfrifol am gostau’r cludiant.