Y Tribanwr
Y Tribanwr
Mae YR HWNTWS, y grŵp gwerin sy’n adnabyddus am ganu caneuon traddodiadol De Cymru gan atgynhyrchu’r hen dafodiaith hardd ‘Gwenhwyseg’ (Gwentian), ar fin cyhoeddi albym newydd sbon ar label Sain.
Dros y misoedd diwethaf mae’r cerddor Gregg Lynn o’r Hwntws wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn ymchwilio hen lawysgrifau a llyfrau caneuon yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan gasglu enghreifftiau unigryw’r ffurf farddonol ‘Tribannau Morgannwg’ – ffrwyth llafur y gwaith ymchwil yma gan Gregg yw’r casgliad newydd ‘Y Tribanwr’ sy’n cynnwys 70 o dribannau traddodiadol wedi eu trefnu gan Nia Lynn a Bernie Killbride.
Ceir nodiadau cynhwysfawr ar gefndir y triban yn y llyfryn ac ymhlith y nodiadau mae disgrifiad Tegwyn Jones o’r triban; ‘Mesur gwerinol yw’r triban, symyl ei ergyd a hawdd ei gofio. Ei nod angen yw ystwythder bywiog ac ergyd yn ei gynffon, ac os ceir tinc y gynghanedd gyda hynny, gorau oll’. Hefyd, wrth ymchwilio daeth Gregg ar draws papurau D.Rhys Phillips yn adrodd hanes y tribannau; ‘Sir Forgannwg a’r cyffiniau oedd prif faes y triban. Fe’i defnyddid wrth ganu i’r ychen, yn y ‘pwnco’ mewn priodasau, ac yn ymweliadau Mari Lwyd o Sir Fynwy hyd at rannau o Sir Gaerfyrddin. Roedd tribannau yn bwysig ym mywyd y werin – ffurf a fu’n foddion difyrrwch a llawenydd yn neuadd y sgweier, efail y gôf, siop y crydd, bwrdd gwaith teiliwr y pentref, llety’r bugail a’r gwaith glo… ‘
Mae’r ychen a’r arad yn thema gre’ drwy’r casgliad, clywir sawl cyfeiriad yn y tribannau eu hunain yn ogystal â’r hyn sydd wedi eu cofnodi am y tribannau a’r cyfnod gan haneswyr, yn ôl Tegwyn Jones; ‘Soniodd Iolo Morgannwg lawer am ganu gyda’r ychen yn ei sir enedigol, a cheir ganddo enghreifftiau lu o dribannau a genid gan y ‘geilwaid’ neu ‘cathreinwyr’ wrth aredig’. Wrth gyflwyno’r trac ‘Aradwr a’i ychen’ yn nodiadau’r clawr mae Gregg yn nodi; ‘Dywedir bod llanciau 15 neu 16 oed yn ddigon mawr a chydnerth i arwain tîm o ŷch o dan yr iau, ond oni bai eu bod yn gallu canu tribannau o fore gwyn tan nos i gadw’r ŷch yn dawel a diddig yn eu gwaith ni fyddai’r ffarmwr yn gadael y llanciau aredig y tir.’ Hefyd, ceir enghreifftiau o alwadau i’r ŷch fel ‘Ma-ho!’, mae’r alwad ar ôl pob pennill ar drac rhif 3, Bro Morgannwg – roedd hyn yn ffordd o yrru’r ŷch yn eu blaenau.
Recordiwyd yr albym yn Stiwdio Felin Fach, Y Fenni gyda Dylan Fowler yn peiriannu a Nia Lynn yn cynhyrchu. Aelodau ‘Yr Hwntws’ yw Gregg Lynn (llais), Nia Lynn (llais, tabwrdd, offerynnau taro), Bernard Killbride (ffidil), Imogen O’Rourke (llais, ffliwt, chwiban D), Dan B James (gitâr, mandocello) a Dean Ryan (bas dwbl, gitâr fas).
- Ym Mhontypridd mae 'Nghariad
- Aradwr a'i Ychen
- Bro Morgannwg
- Cymeriadau / Alaw Triban
- Y Mwlsyn
- Y Folantein / Y Bibddawns Gymreig
- Hannar Cnap
- Tribannau Priodasau / Y Lili
- Ffarwel i Dai'r Cantwr
- Adar Di-Ofal / Alaw Pontypridd
- Tribannau Ifan Bifan
- Diawledig a Nefolaidd / Pibddawns Gwŷr Wrecsam
- Y Coliar