Y Mab Darogan
Y Mab Darogan
Y Mab Darogan
SKU:Sain 1228
Methu â llwytho manylion casglu
Cwmni Theatr Ieuencitd Maldwyn yn cyflwyno.
Seiliwyd cyflwyniad Y Mab Darogan ar hanes Owain Glyndŵr. Agorir drwy gylfeu cyflwr y wlad a’i phobl: cyfnod tywyll yn wir. Ond hyd yn oed yn yr awr dywyllaf, ‘roedd y beirdd a’r seryddwyr yn darogan arweinydd i Gymru. ‘Roedd Owain Glyndŵr yn uchelwr, a’i gartref yn Sycharth yn enwog drwy’r wlad fel llys gwaraidd a diwylliedig. Nid yn ddifeddwl y gwnaeth Owain benderfynnu arwain ei bobl mewn gwrthryfel. Fe geisiodd ddatrys a gwella sefyllfa ei wlad yn heddychlon, a methu. Effeithiodd agweddau estron hefyd, a digwyddiadau yng ngwledydd eraill ar ei benderfyniad. I’w wraig a’i deulu, ‘roedd y penderfyniad hwnnw yn un tyngedfennol.
Wedi llwyddiant y gwrthryfel, a sefydlu Owain yn arweinydd ei wlad, death yn amlwg ei weledigaeth eang am ei dfodol. Sefydlwyd Senedd a thrafodwyd sefyllfa’r Eglwys; amlygwyd cnlluniau cymdeithasol ac addysgiadol. Daw hefyd wendidau dynol i amharu ar y freuddwyd. Er i Owain ei hun ddiflannu, mae’r freuddwyd yn fyw, a’r arwr yng nghalonnau’r Cymry am byth - A chi yw y gwanwyn gwyrdd.
Wedi llwyddiant ysgubol y cwmni yn Eisteddfod Machynlleth, aethpwyd â’r Mab Darogan ar daith trwy Cymru. Profiad hollol newydd oedd perfformio ar lwyfan y Pafiliwn, a’r un mor newydd oedd ymddangos ar lwyfannau’r wlad. O addasu’r cyflwyniad ar gyfer gwahanol theatrau, bua r ei ennill oherwydd agosatrwydd y gynulleidfa, a bu’r ymateb yn wefreiddiol yn mhobman.
Ochr 1
- Welsoch chi (Y Bardd a’r Corws)
- Y Mab Darogan (Y Corws)
- Y Geni (Y Llais Gwyn a’r Corws)
- Oes ‘na ddigon o win? (Betsan a chriw’r gegin)
- Cân Sycharth (Y Bardd a’r Corws)
- Y Cynllun (Rheinallt, Gwilym Tudur, Rhys Tudur, Rhys Gethin, Crach, Owain)
- Y Penderfyniad (Owain a Mared)
- Heno sylweddolais (Marged a’r Morwynion)
Ochr 2
- Bedd heb yfory (Owain a Marged)
- Ie Glyndŵr! (Owain a’r Corws)
- Ond Gruffydd beth a ddaw? (Elin a Gruffydd)
- Llosgwn Gaer y gormes (Crach, Gruffydd, Marged, Owain a’r Corws)
- Y Senedd - Mae pawb eisiau darn o’r gacen - Y Bardd, Crach a’r Corws)
- Dyma fy mreuddwyd (Owain a’r Corws)
- Pa Bab? (Y Deon a’r Corws)
- Y gau a’r gwir (Crach, Owain, Marged, Rheinallt)
- Afeilion (Owain)
Owain Glyndŵr - Dafydd Penri Roberts
Marged (ei wraig) - Mererid Ll. Turner
Crach (proffwyd Owain) - Emyr Puw
Y Bardd - Barrie Jones
Gruffydd (Mab Owain) - Martin W Evans
Elin - Jayne Thomas
Rheinallt - Bedwyr Roberts
Rhys Gethin - Edfryn Lewis
Gwilym Tudur - Wyn John
Rhys Tudur - Geraint Jones
Deon - Robin Glyn Jones
Y Llais Gwyn - Eleri Roberts
Betsan - Gaenor Howells
Lowri - Ann O. Williams
Llys Gennad Ffrainc - Eilir Jones
Llys Gennad Yr Alban - Geraint Davies
1981
Rhannu
