Y Goreuon Eto
Y Goreuon Eto
SKU:SCD2706
Pan gyhoeddwyd y casgliad cyntaf o oreuon John ac Alun yn 2004, fe addawyd ail gyfrol. A dyma hi – sef cyfuniad o’r goreuon gwreiddiol, a 18 trac arall o ffefrynnau ar CD ychwanegol. Gan fod y “goreuon” gwreiddiol wedi hen werthu, tybiwyd y byddai dilynwyr ffyddlon un o’r deuawdau mwyaf poblogaidd a welwyd yng Nghymru yn gwerthfawrogi cael 36 o’u caneuon gorau gyda’i gilydd mewn un pecyn hwylus.
Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth da o ganeuon gwreiddiol gan nifer o gyfansoddwyr gwahanol, yn ogystal ag addasiadau Cymraeg o glasuron y byd canu gwlad.
Mae’r ddau o Dudweiliog yn dal i ddiddanu’r torfeydd led-led Cymru, a’u rhaglen radio ar Radio Cymru wedi ymestyn bellach i deirawr ar Nos Sul. Ac y mae’r ceisiadau a’r negeseuon sy’n llifo o bob cwr yn brawf pellach o’u poblogrwydd agosatoch.
Mae John ac Alun hefyd newydd gyhoeddi llyfr o hanes eu 25 mlynedd gan y newyddiadurwr a’r cerddor Tudur Huws Jones, a bellach cewch fwynhau darllen hwnnw yn sain eu caneuon bytholwyrdd.
CD1:
- Penrhyn Llŷn
- Tywod Porthoer
- Y llais
- Chwarelwr (Working Man)
- Os na ddaw yfory
- Gadael Llŷn (Cottage by the Sea)
- Aros y nos
- Gafael yn fy llaw
- Meibion dewr y Moelfre
- Dy golli di
- Wastad yn fis Hydref
- Breuddwydion (Green Green Grass of Home)
- Fan acw fy nghariad
- Giatia Graceland
- Yr Wylan wen
- Gobaith
- Un noson arall
- Love me tender
CD2:
- Hei! Anita
- Cadw’r gwir dan glo
- Gadael Tupelo
- Gad fi’n llonydd
- Datod y clymau
- Dos f’anwylyd
- Pwy fydd yma ’mhen can mlynedd
- Lliwiau’r Enfys
- Ble mae f’anwylyd
- Felan y fawd
- Calon lân
- Dim ond un gusan (Funny Way of Laughing)
- Dyddiau difyr
- Dy gofio di
- Erwau’r ŷd
- Modrwy ar y bwrdd
- Llosgi’r bont
- Bydd gyda mi