Y Goreuon (1994-2005)
Y Goreuon (1994-2005)
SKU:SCD2615
18 o draciau mwyaf cofiadwy Bryn Fôn, oddi ar ‘Dyddiau Digymar’, ‘Dawnsio ar y Dibyn’ , ‘Abacus’ a ‘Cam’.
Bu Bryn Fôn yn rheng flaen cantorion poblogaidd Cymru ers dyddiau Crysbas, ac yma clywir deunaw o’i ganeuon gorau o’r degawd o ganol y 90au hyd 2005. Wedi llwyddiant cyfnod Sobin a’r Smaeliaid, cyhoeddodd ddwy albym fel “Bryn Fôn” i gwmni SAIN ar label CRAI yn 1994 (“Dyddiau Di-gymar”) ac 1998 (“Dawnsio ar y Dibyn”), a bu gwerthu cyson ar y ddwy byth ers hynny. Dilynwyd y rhain gan ddwy albym i gwmni aBel yn 2004 (“Abacus”) a 2005 (“Cam”), a chlywir yma ddetholiad o ganeuon oddi ar y bedair. Cyfrinach llwyddiant Bryn yw’r cyfuniad o lais a thechneg ddi-feth, a chaneuon da; daw’r caneuon hyn o law rhai o gyfansoddwyr a cherddorion amlycaf y maes poblogaidd Cymraeg: Emyr Huws Jones, Alun ‘Sbardun’ Huws, Rhys Parry, Barry ‘Archie’ Jones, Les Morrison a Graham ‘La’ Land. Bu gan Bryn ei hun ran mewn cyfansoddi 8 o’r caneuon, 5 ohonyn nhw ar y cyd gyda’r gitarydd Rhys Parry.
- Ceidwad y goleudy
- Yn y dechreuad
- Coedwig ar dân
- Rebel wicend
- Tre’ Porthmadog
- Llythyrau Tyddyn y Gaseg
- Gwybod yn iawn
- Un funud fach
- Yn yr ardd
- Abacus
- Strydoedd Aberstalwm
- Noson ora ‘rioed
- Diwedd y gân
- Mistar ‘T’
- Cân i Ems
- Tân ar Fynydd Cennin
- Y Bardd o Montreal
- Cofio dy wyneb