Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Y Ddau Lais

Y Ddau Lais

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2691

Mae’n anodd esbonio beth yn hollol yw apêl dau lais yn canu mewn harmoni, ond mae’n sicr wedi bod yn nodwedd amlwg o ganu poblogaidd Cymraeg ers tro byd. Enw sy’n taro cloch i lawer, yn enwedig yn ardal Dyffryn Nantlle, yw’r Brodyr Francis, ac mae’n bosib dadlau mai nhw oedd y ‘cantorion pop’ cyntaf yn y diwylliant Cymraeg, ond yn anffodus, nid oes unrhyw recordiad ohonynt (hyd y gwyddom) ar gael. Mae enwau’r brodyr Jac a Wil o Gefneithin yn dod o gyfnod ychydig yn diweddarach, a’u disgiau yn dal i werthu’n rheolaidd. Ar eu hôl nhw daeth nifer o ddeuawdau i serennu wrth i’r byd pop Cymraeg dyfu, a chlywir rhai ohonyn nhw yn y casgliad hwn – Aled a Reg, Tony ac Aloma, Vernon a Gwynfor a Rosalind a Myrddin yn eu plith.

Wrth i ganu gwlad fagu gwreiddiau yn Gymraeg, daeth nifer o ddeuawdau eraill fel Iona ac Andy a John ac Alun, Broc Môr a Dylan a Neil, i’r amlwg. Mae’r rhan fwyaf a enwyd wedi gwneud eu marc fel deuawdau sefydlog, ond weithiau daw dau lais unigol at ei gilydd ar gyfer gwneud recordiad arbennig, a dyna a ddigwyddodd gyda Gillian Elisa a Iona, Wil Tân a Karen Môn Heli, Edward a Mary Hopkin a Huw Jones a Heather. Yn achos ‘Gary a Susan’, daeth Bryn Fôn a Morfudd Hughes at ei gilydd ar gyfer cyfres deledu am ddeuawd canu gwlad, ac wrth gwrs roedd Ryan a Ronnie yn enwog fel deuawd gomedi yn ogystal â deuawd gerddorol.

Difyr hefyd yw sylwi ar y cyslltiad teuluol sydd rhwng cynifer o’r deuawdau Cymraeg hyn – Rosalind a Myrddin, Iona ac Andy (gwr a gwraig), Dylan a Neil (tad a mab), Brodyr Gregory a Broc Môr (brodyr), Tonig (dwy chwaer), a Gwenda a Geinor (mam a merch). Ond beth bynnag yw’r rheswm, mae’r casgliad hwn yn profi fod poblogrwydd ac apêl y ddau lais Cymraeg mewn harmoni cyn gryfed ag erioed.
Dafydd Iwan 

  1. Un Noson Arall - JOHN AC ALUN
  2. Rhywbeth yn Galw - (BRYN FÔN A MORFUDD HUGHES: 'Gary a Susan')
  3. Mae d'eisiau di bob awr - GWENDA A GEINOR
  4. Y Rhosyn - GILLIAN ELISA A IONA MYFYR
  5. Rhywbeth Syml - MARY HOPKIN AC EDWARD MORUS JONES
  6. Cofio o Hyd - ROSALIND A MYRDDIN
  7. Cajun Jambylai - DYLAN A NEIL
  8. Gafael yn fy Llaw - KAREN OWEN (Môn-heli) a WIL TÂN
  9. Tân ar Hen Aelwyd - BROC MÔR
  10. Penrhyn Llŷn - JOHN AC ALUN
  11. Cerdded Dros y Mynydd - IONA AC ANDY
  12. Rho dy Law - ROSALIND A MYRDDIN
  13. Wedi Colli Rhywbeth sy’n Annwyl - TONY AC ALOMA
  14. Ble’r aeth yr Haul? - HUW JONES A HEATHER JONES
  15. Yr Hen Simdda Fawr - ALED A REG
  16. Ti a dy Ddoniau - RYAN A RONNIE
  17. Hiraeth Haf - VERNON A GWYNFOR
  18. Coedwig ar Dân - ENID AC IVAN
  19. Ffordd yw’r Goleuni - TONIG
  20. Cân i Ryan - Y BRODYR GREGORY
Year
Gweld y manylion llawn