Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Steve Eaves a Rhai Pobl

Y dal yn dynn, y tynnu'n rhydd

Y dal yn dynn, y tynnu'n rhydd

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

12 mlynedd ers rhyddhau Moelyci – albwm a ystyrir ymysg clasuron y Gymraeg – mae Steve Eaves yn ei ôl gydag albwm newydd sbon; Y dal yn dynn, y tynnu’n rhydd.

Casgliad o ganeuon unigol yw’r albwm a phob cân wedi ei hysgogi gan ryw syniad gwahanol neu deimlad gwahanol. Yng ngeiriau Steve: ‘Dim ond ar ôl cyfansoddi hyn a hyn o ganeuon unigol bydda i’n meddwl wedyn pa rai sydd rywsut yn ‘perthyn efo’i gilydd’ o ran eu themâu, eu naws a’r teimlad sydd ynddyn nhw, a ballu. A dyna sut mae cynnwys pob albwm yn dŵad yn amlwg imi. Felly fydda i byth yn mynd ati i ‘greu albwm’ – dim ond cyfansoddi caneuon. Mae’r broses o roi albwm at ei gilydd yn dŵad wedyn.’

Adnabyddir Steve Eaves fel un o fawrion y sin gerddoriaeth Gymraeg ac mae wedi hen sefydlu ei hun fel un sydd â dawn ddigamsyniol o drin geiriau a’u priodi’n berffaith gyda cherddoriaeth, a gwelir hynny ar waith eto yn yr albwm hwn. Fel yr awgryma’r teitl, mae yma ddal yn dynn ar brofiadau, emosiynau a theimladau ond caiff y cwbl eu tynnu’n rhydd a’u datgymalu hefyd. Daw’r teitl o’r gân ‘Ffair Wagedd’, sy’n ymddangos ar yr albwm. Fel yr esbonia Steve wrth egluro ei arwyddocâd:

‘Beth bynnag mae’r teitl yn ei olygu i chi, wel dyna ydi’r ystyr. Byddwch chi’n gwybod yn well na mi be’ mae’r teitl yn ei olygu ar ôl ichi wrando ar y caneuon. Chi sy’n agor y drws wrth wrando, toes gennyf i ddim goriad iddo. Ond wrth gwrs mae gen i fy syniadau fy hun amdano hefyd. Dros y blynyddoedd dwi wedi sylwi ar un patrwm arbennig mewn bywyd. Yn ein calonnau ’dan ni i gyd am afael yn dynn yn y pethau ’dan ni’n eu caru – partner, cariad, babi, ffrind, ci, mam a thad, iechyd da, rhyw dynerwch, rhyw deimlad braf, dyddiau da llawn hwyl, y nosau tawel arbennig, llawn sêr. A ’dan ni i gyd wedi teimlo’r golled yn hegar iawn pan mae’r pethau ’ma yn darfod, neu’n tynnu’n rhydd, neu’n cael eu tynnu’n rhydd oddi wrthon ni, neu’n gollwng eu gafael arnon ni. Mae pawb yn gwybod am hyn – bydd pawb yn ei brofi yn hwyr neu’n hwyrach – tydi o ddim yn beth cymhleth. Ond dwi’n dallt ac yn teimlo y patrwm yma cymaint yn fwy ar ôl ei brofi llawer o weithiau. Dwi’n meddwl bod nifer o’r caneuon wedi codi o’r profiadau hynny. Ond mae’n ddigon posibl bydd pobl eraill yn dallt y caneuon a’r teitl yn llawer gwell na mi, fel dwi di profi cymaint o weithiau o’r blaen.’

Pan enillodd Steve Eaves Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau RAP BBC Radio Cymru yn 2011, dywedodd ei fod yn ‘licio meddwl… bod y gwaith gorau o fy mlaen i.’ Mae’n dweud y cwbl iddo ryddhau ei record gyntaf Viva la Revolucion Galesa! yn 1984 a’i fod yn parhau i fynd o nerth i nerth 35 mlynedd yn ddiweddarach.

1 Pentref
2 Fel Ces I ’Ngeni I’w Wneud
3 Ma Copine
4 Difaru Nawr
5 Creÿr Glas A Heron
6 Y Ferch Yn Y Blue Sky Café
7 Titw Tomos Las
8 Catherine
9 Wedi Torri

Gweld y manylion llawn