Y Caneuon Cynnar
Y Caneuon Cynnar
SKU:SCD2151
Casgliad o’r caneuon Cymraeg a ddaeth a’r ferch o Bantardawe i sylw’r byd, a’r llais ar ei fwya’ naturiol.
Yn niwedd y chwedegau, daeth llais merch ifanc o Bontardawe i gyfareddu’r Gymru Gymraeg; ei henw oedd Mary Hopkin. O’i ymddangosiad cyntaf ar deledu’r BBC, doedd dim amheuaeth ynglyn a’i dawn i droi cân gyfarwydd yn brofiad arbennig. Llais clir fel y grisial, arddull cwbl gartrefol a wyneb fel angel! Does ryfedd yn y byd na fu Mary Hopkin yn hir cyn denu sylw ymhell y tu hwnt i Gymru, ac iddi gael ei hun yng nghwmni neb llai na’r “Beatles” yn stiwdio Abbey Road. A chyn pen dim, roedd ei recordiad enwog o “Those were the days” ar frig y siartiau, ac i’w chlywed ar draws y byd.
Ond gallwn ymfalchïo yn y ffaith mai Cymraes yw Mary, ac yma yng Nghymru y datblygodd ei chrefft fel cantores, ac yma yng Nghymru y recordiodd ei recordiau cyntaf, a hynny yn Gymraeg. Clywir ar y casgliad yma un-ar-ddeg o’r caneuon a recordiodd ar label Cambrian yn niwedd y 60au a dechrau’r 70au, y rhan fwyaf ohonynt i’w chyfeiliant ei hun ar y gitar, ac un yn ddeuawg gydag Edward Morus Jones. Does dim dwywaith mai yn y recordiadau cyntaf hyn y clywir llais di-gymar Mary Hopkin ar ei orau a’i fwyaf naturiol. Casgliad i’w drysori yng ngwir ystyr y gair!
- Tro, Tro, Tro
- Tami
- Yn y Bore
- Gwrandewch ar y Moroedd
- Pleserau Serch
- Draw Dros y Moroedd
- Aderyn Llwyd
- Y Blodyn Gwyn
- Rhywbeth Syml
- Tyrd yn Ôl
- Yfory