Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Y Bois a'r Hogia

Y Bois a'r Hogia

Pris rheolaidd £9.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £9.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2578

Casgliad newydd o ffefrynnau’r 60au a’r 70au o bob cwr o Gymru gyda Hogia Bryngwran, Deulyn, Llandegai a’r Wyddfa, Bois y Blacbord a’r Felin, gyda’r Hennessys, Aled a Reg, Y Derwyddon, Griff a Watcyn, Y Cwiltiaid a’r Castaways.

Flynyddoedd cyn bod sôn am unrhyw “boy band” yn canu yn Saesneg, roedd Cymru’n frith o grwpiau o fechgyn a dynion o bob oed yn difyrru eu hunain a’u cynulleidfaoedd wrth ganu mewn harmoni. Roedd rhai o’r caneuon yn wreiddiol, ac eraill yn rhan o draddodiad llafar gwlad y gwahanol ardaloedd: ambell i gân serch, caneuon am y filltir sgwâr, a dogn dda o dynnu coes. Amaturiaid yn canu am eu bod yn mwynhau canu oedd y rhain, er i rai fel Aled a Reg, Hogia’r Wyddfa, Hogia Llandegai a’r Hennessys ddatblygu’n lled-broffesiynol yn ddiweddarach oherwydd eu hapêl eang ddiamheuol.

Dyma’r cryno-ddisg cyntaf sy’n dod a goreuon y grwpiau hyn at ei gilydd, yn amrywio o ddeuawd fel Aled a Reg – y ddau lais mwyn a osododd gymaint o sylfeini i’n canu poblogaidd Cymraeg - i bartion meibion fel Hogia Bryngwran, yr arloeswyr o Fôn, a Bois y Blacbord, yr athrawon o Sir Gâr dan arweiniad Noel John a roddodd inni’r clasur “Dros y Mynydd Du o Frynaman”. Bydd y casgliad yma yn siwr o ddwyn atgofion lawer i filoedd ohonoch o’r dyddiau hynny pan oedd adloniant yn syml, di-ffrils ac agosatoch. Ac er bod y rhan fwyaf o’r caneuon yn gyfarwydd i lawer ohonoch, mae’n siwr y bydd yma ambell i berl llai adnabyddus, megis baled gynnil-ddigri Y Derwyddon o ardal Pontypridd, a thelyneg annwyl Aled a Reg i Lwybr y Plwy. Mae ambell un o’r caneuon hyn wedi ei hail-recordio’n ddiweddarach, ond clywir y recordiad gwreiddiol yma ym mhob achos er mwyn cadw naws a chymeriad y cyfnod. Golygwyd gan Dafydd Iwan o archif dapiau Sain/Cambrian/Welsh Teldisc. 

  1. Dyddiau Difyr - HOGIA BRYNGWRAN
  2. Ni'n Symudir Ni - HOGIA BRYNGWRAN
  3. Dros y Mynydd Du o Frynaman - BOIS Y BLACBORD
  4. Yr Hen Bess - BOIS Y BLACBORD
  5. Llwybr y Plwy - ALED A REG
  6. Rownd yr Horn - HENNESSYS
  7. Y Sipsi - HENNESSYS
  8. Trên Bach yr Wyddfa - HOGIA LLANDEGAI
  9. Lonna Lân - HOGIA LLANDEGAI
  10. Cyrchu Gwraig - Y DERWYDDON
  11. Rho im dy Serch - HOGIA'R DEULYN
  12. Wil Coes Bren - HOGIA'R DEULYN
  13. Tyrd yn Ôl - BOIS Y FELIN
  14. Enfys - BOIS Y FELIN
  15. Trowsus Melfared - GRIFF A WATCYN
  16. Rwyf yn dy Garu - Y CWILTIAID
  17. Heno - Y CWILTIAID
  18. Ble Mae fy Nhad - Y CASTWAYS
  19. Y Gwanwyn - HOGIA'R WYDDFA
  20. Ddoi di Gyda Mi? - HOGIA'R WYDDFA
Gweld y manylion llawn