Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Ciwb

Wyt Ti'n Meddwl Bod o Wedi Darfod?

Wyt Ti'n Meddwl Bod o Wedi Darfod?

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2835

Mae ‘Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?’ yn ffrwyth cyd-weithio rhwng Ciwb (Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams) a 9 o gantorion amlycaf y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd. Dyma albym sy’n rhoi gwedd newydd ar 10 o ganeuon gwych o grombil catalog label Sain ac albym sydd hefyd yn ddathliad o gyfraniad yr artistiaid gwreiddiol a’r cyfansoddwyr i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

 Wedi cychwyn recordio a threfnu fersiynau newydd o ganeuon poblogaidd dros y cyfnodau clo cyhoeddodd Ciwb a Malan eu fersiwn newydd nhw o ‘Smo Fi Ishe Mynd’ (Edward H Dafis). Arweiniodd hyn at y syniad o greu albym yn llawn o drefniannau newydd o ganeuon apelgar a ryddhawyd gan Sain ar hyd y degawdau – rhai o glasuron y 70au fel ‘Nos Ddu’ (Heather Jones), ‘Methu Dal y Pwysa’ (Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr) a ‘Ble’r Aeth yr Haul?’ (Huw Jones); ambell anthem bwerus o’r 80au fel ‘Da ni’m yn rhan’ (Maffia Mr Huws), yr hwyliog ‘Ofergoelion’ (Tecwyn Ifan) a’r ffynci ‘Gwawr Tequila’ (Bando); ac o’r 90au, ‘Dagrau o Waed’ (Sobin a’r Smaeliaid), ‘Rhydd’ (Hanner Pei) a fersiwn wahanol o’r ffefryn gwerinol gan Siân James, ‘Pan ddo’i adre’n ôl’. I orffen yr albym Rhys Gwynfor sy’n perfformio fersiwn newydd o gân Meic Stevens ‘Mynd i ffwrdd fel hyn’, y gân sy’n cynnwys teitl yr albym yn ei chytgan cofiadwy.

 Dyma albym sy’n destament i apêl parhaol rhai o ganeuon gwych y gorffennol gyda phob trac yn arddangos arddull unigryw yr amrywiol artistiaid a’r cyfan wedi ei glymu ynghyd gan ddoniau cerddorol Ciwb.

 Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod? – Gwranda’ ar yr albym…

Cynhyrchu: Aled Wyn Hughes a Ciwb

1) Nos Ddu (Ciwb)
2) Gwawr Tequila (Mared Williams)
3) Methu dal y pwysa (Alys Williams)
4) Ofergoelion (Iwan Fon [Kim Hon]) 
5) Dagrau o waed (Osian Huw Williams [Candelas])
6) Rhydd (Heledd Watkins [HMS Morris])
7) Da ni’m yn rhan (Joseff Owen [Y Cledrau])
8) Pan ddo’i adre’n ol (Lilly Beau)
9) Ble’r aeth yr haul (Dafydd Owain (Palenco])
10) Mynd i ffwrdd fel hyn (Rhys Gwynfor)

Gweld y manylion llawn