Unmasked
Unmasked
Mae’r ail albwm hon gan John Owen-Jones yn dangos yn syml pam fod cymaint o bobl yn ffan ohono – ei lais nodedig. Casgliad o draciau poblogaidd sydd yma sy’n cynnwys ‘Music of the Night’ allan o The Phantom of the Opera a fersiwn syfrdanol o’r clasur ‘Thunderball’ o’r ffilm James Bond.
Bydd John yn ail-fyw’r rhan Phantom yn nhaith dathlu 25 mlynedd o’r sioe The Phantom of the Opera mewn cynhyrchiad newydd sbon. Cyn hyn, cafodd John lwyddiant enfawr yn y West End ac ar Broadway fel Jean Valjean yn Les Miserables a cafodd ei bledleisio fel y ‘Jean Valjean’ gorau erioed mewn pôl ar draws y byd gan ffans y sioe. Casgliad yw Unmasked o glasuron fel ‘Nature Boy’ yn ogystal â dehongliad annisgwyl o ‘Love of my Life’ gan Queen a gafodd ei recordio gyda bendith Brian May. Gyda John, ymuna’r cyd-Gymro Bryn Terfel ar gyfer ‘I Don’t Remember You’, ac hefyd ymuna gyda Natasha Marsh (sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn y siartiau clasurol) ar gyfer ‘All I Ask of You’.
Dyw John ddim yn ddiethr i deledu a radio chwaith– yn ddiweddar iawn perfformiodd ar y Royal Variety Performance ac ar Friday Night Is Music Night ar BBC Radio 2. Mae ganddo groesdoriad o ffans, o Alex Jones (The One Show) ‘…he is out-standing’ i’r enwog Michael Parkinson – ‘…sounds terrific!’
- Nature Boy
- Thunderball
- This is the Moment
- The Music of the Night
- Til I Hear You Sing
- All I Ask of You (& Natasha Marsh)
- Being Alive
- I Don't Remember You / Sometimes A Day Goes By (& Bryn Terfel)
- Down to the Sea
- Somewhere
- Without You
- Love of my Life
- Bring Him Home
- Hallelujah