Trystan
Trystan
Mae’r tenor Cymreig Trystan Llŷr Griffiths, sy’n enedigol o ardal Clunderwen, Sir Benfro, yn unawdydd cyngerdd poblogaidd ledled Cymru a thros Glawdd Offa.
Ef yw un o’r cantorion cyntaf i dderbyn Gwobr Astudio gan Ymddiriedolaeth Bryn Terfel ac yn 2012 fe’i dyfarnwyd yn Llais i Gymru gan Gwmni Recordiau Decca mewn cyfres deledu ar S4C.
Dechreuodd Trystan ar ei astudiaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym maes Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau cyn cwblhau cwrs Meistr Lleisiol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a chwrs ôl‑radd Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae newydd gwblhau ei astudiaethau fel Hyfforddai yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol yn Llundain.
Ymysg ei lwyddiannau mae: Gwobr Ian Stoutzker 2014; Gwobr Richard Van Allan 2014; Gwobr Gerddorol Bruce Millar Gulliver 2014; Ysgoloriaeth Tywysog Cymru Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 2013; Gwobr Canwr Ifanc y Flwyddyn Dunraven 2013; Gwobr Canwr Ifanc Cymreig MOCSA 2012; Gwobr Sybil Tutton 2012; Gwobr Canwr Ifanc y Flwyddyn Cymry Llundain 2011; Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts 2011; Gwobr Goffa Osborne Roberts 2009.
Mae uchafbwyntiau llwyfan yn cynnwys ymddangosiadau yn Neuadd Frenhinol Albert, Gwŷl y Gelli gyda Bryn Terfel, Brynfest yng Nghanolfan Southbank, perfformiad cyngerdd o Tristan und Isolde gyda Cherddorfa Philharmonic Frenhinol Lerpwl ynghyd â datganiadau yn St Martin-in-the-Fields a Gwŷl Gerdd Caerdydd.
Ef oedd Carlos mewn recordiad o Le Duc d’Albe gyda Cherddorfa’r Hallé i Opera Rara, ac yn ystod haf 2015 derbyniodd ysgoloriaeth i fynychu Preswylfa Mozart gyda Gwŷl d’Aix-en-Provence. Gwnaeth Trystan ei ymddangosiad operatig proffesiynol cyntaf fel Ferrando yn Cosi fan tutte ar daith
- Arafa Don
- Nearer My God to Thee
- Dein ist Mein Ganzes Hertz
- Dal Labbro il Canto Estasiato Vola
- Llanrwst
- Dros Gymru'n Gwlad - gyda/with Gwydion Rhys
- Am Mai
- Abide With Me
- Cilfan y Coed
- Ideale
- Nella Fantasia
- È La Solita Storia
- Nes Ata Ti, fy Nuw
- Y Geni - gyda/with Bryn Terfel