Trio
Trio
SKU:SCD2709
Y triawd ifanc o fro’r chwareli yn rhyddhau eu halbym cyntaf.
Bedwyr Gwyn Parri – bariton
Emyr Wyn Gibson - tenor
Steffan Lloyd Owen - bȃs-bariton
Annette Bryn Parri - cyfeilydd
Dyfyniad o gyflwyniad Dafydd Iwan:
Mae’n annheg cyplysu triawd ifanc mor gynnar yn eu gyrfa ag un o enwau mwyaf y llwyfan Cymraeg, ond gan fod Annette hefyd yn gyfeilydd i neb llai na Hogia’r Wyddfa nid yw’n anodd gwneud y cyswllt. Gwreiddiau’n ddwfn yn Eryri, tri llais yn asio’n wych, a hoffter o ganu ac o ddiddanu yn amlwg ymhob nodyn, mae’r olyniaeth yn naturiol. Ond rhaid i’r triawd newydd yma wneud ei farc ei hun, a rŵan, gwta flwyddyn ar ôl eu cyngerdd cyntaf , dyma Bedwyr, Emyr a Steffan yn cyflwyno’u casgliad cyntaf o ganeuon fel y gellwch farnu drosoch eich hunain.
Mae’r dewis o ganeuon ar y ddisg yma yn dangos yn eglur beth yw blaenoriaethau, a beth yw cryfderau TRIO. Caneuon ydyn nhw gydag alawon cryf, a chaneuon y mae cantorion yn mwynhau eu canu, a chaneuon sy’n benthyg eu hunain i ganu mewn cynghanedd lleisiol. A chaneuon sy’n dod o sawl cyfeiriad gwahanol, o emynau Cymraeg i glasuron pop Saesneg, caneuon o’r sioeau cerdd, a rhai o glasuron diweddar y llwyfan poblogaidd Cymraeg. A gwych yw cyfuno lleisiau Bedwyr, Emyr a Steffan gydag un arall o draddodiadau hyfyw ardal Deiniolen, sef y Seindorf Arian enwog. Mae gan Steffan hefyd gysylltiad gyda Deiniolen, gan fod ei nain, Elizabeth Ann Owen, wedi ei magu yn y pentref.
Rwy’n siŵr y cewch fwynhad mawr o wrando ar gyfoeth hyfryd y casgliad hwn, ac y cytunwch fod yna flas llawer mwy arno.
- Lle rwyt ti {To where you are}
- Always there
- Dros Gymru’n gwlad {Finlandia}
- Hen wr ar bont y Bala
- Resan (The Voyage)
- Angor
- Ellers {Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr}
- Un eiliad mewn oes {One moment in time}
- Rwy’n dy weld yn sefyll
- Anfonaf Angel
- Wind beneath my wings
- Angel Duw {Adagio: “New World Symphony”}