Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Trebor Edwards

Trebor ar ei Orau

Trebor ar ei Orau

Pris arferol £5.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £5.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2377

Ynghanol y 70au, daeth dwy record EP i sylw’r cyhoedd yng Nghymru ar label “Tŷ ar y Graig”, y label a sefydlwyd gan Harri Parri a Gareth Maelor cyn ei throsglwyddo i gwmni SAIN. Roedd yr ymateb i’r ddwy record hynny yn syfrdanol, a chymerodd y werin Gymraeg at lais di-ymdrech y ffermwr o Fetws Gwerful Goch ar unwaith. Cam naturiol wedyn oedd cyhoeddi’r record hir gyntaf (“Dyma fy Nghân”), ar label SAIN yn 1976, a bu honno hefyd yn llwyddiant ysgubol. Fe’i dilynwyd gan gyfres o recordiau hir trwy gydol yr 80au a’r 90au: “Cân y Bugail” (1978), “Un Dydd ar y Tro” (1980) – yr LP Gymraeg a werthodd fwy na’r un arall erioed, “Ychydig Hedd” (1982), “Gwelaf dy Wên” (1984), “Diolch” (1986), “Edrych Ymlaen” (1990), “Ceidwad Byd” (1993), a “Ffefrynnau Newydd” (1998).

Yn ychwanegol at y rhain, cyhoeddwyd dau gasgliad Saesneg a gyfunwyd ar un CD “The Very Best of Trebor Edwards” yn 1997, a chasgliad o’i oreuon Cymraeg, “Goreuon Trebor” yn 1988. Parhaodd Trebor i ganu mewn cyngherddau, ac ar deledu, led-led Cymru a thu hwnt hyd heddiw. 

  1. Beibl Mam
  2. Serch, dyma fy nghân
  3. Clod i Walia
  4. Bro Edeyrnion
  5. Tyrd ataf yn ôl
  6. Ti a dy ddoniau
  7. Palmant y dref
  8. Fe fydd it groeso
  9. Rho dy law
  10. Gwelaf dy wên
  11. Mi glywaf y llais
  12. Yng nghwmni'r Iesu
  13. Afon Clwyd
  14. Mil harddach wyt na'r rhosyn gwyn
  15. Rhosyn gwyn
  16. Sicrwydd bendigaid
  17. Clychau Cantre'r Gwaelod
  18. Duw wyr
  19. O Blodwen f'anwylyd
  20. Pererin wyf
Year
Gweld y manylion llawn