Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Mynediad am ddim

Torth o Fara

Torth o Fara

Pris arferol £29.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £29.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Sain 1137

Mewn eglws yn Landunvez, Llydaw ar noson braf o Awst 78, a’r lle dan ei sang, clywais Mynediad am Ddim yn taro’r uchelfannau. Atseiniai’r caneuon - y rhai offerynnol, i gyfeiliant a digyfeiliant – rhwng muriau a thrawstiau’r eglwys hynafol ac allan i heolydd y pentre. Cyfareddwyd y gynulleidfa, a’r noson honno y rhoddwyd sel ar y bwriad i wneud record o Mynediad yn canu caneuon gwerin. Mae ganddynt yr holl adnoddau anhepgor - yn offerynnol a lleisiol, ac wele’r record hon yn brawf o’r modd y gallant ddwyn bywyd ac asbri newydd i ganeuon traddodiadol ein cenedl. Yn llon a lleddf - ond gyda pwyslais mwy nad arfer ar y bywiog a’r direidus - cawn yma flasu’r traddodiad Cymreig yn ei ogoniant, gyda their dawn offerynnol yn enllyn ychwanegol.

Ochr 1

  1. Wrth Fynd efo Deio i Dywyn
  2. Y ferch o blwy Penderyn
  3. Fflat Huw Puw
  4. Migildi Magildi
  5. Pibgorn
  6. Y G’lomen
  7. Bwthyn Nain
  8. Cân Crwtyn y Gwartheg

Ochr 2

  1. Gwn Dafydd Ifan
  2. Gorymdaith Gwŷr Dyfnaint
  3. Y cobler du bach
  4. Dacw ‘nghariad
  5. Cân Huw Puw
  6. Torth o fara
  7. Y gelynnen
  8. Castell coch
  9. Had Maip Môn

(Taflen geiriau y caneuon yn cynnwysiedig yn yr LP)

1978

Gweld y manylion llawn