Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

The Welsh Gold Collection - Starclassics

The Welsh Gold Collection - Starclassics

Pris rheolaidd £9.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £9.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2558

Cyngerdd gwych gan nifer o gantorion a cherddorion amlycaf Cymru a’r byd. Dathlu’r goreuon o fyd y clasuron Cymreig

Bu’r cyfnod diweddar – yn wir, gellir yn hawdd dweud ers cychwyn yr unfed ganrif ar hugain – yn gyfnod rhyfeddol o lewyrchus a llwyddiannus i gantorion ac offerynwyr clasurol Cymreig. Ac nid canmol gwag yw hynny, ond mynegi ffaith sy’n cael ei chydnabod ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru a gwledydd Prydain. Mae llawer iawn o’r enwau sydd wedi bod ar flaen y llwyfan clasurol Prydeinig yn ystod y cyfnod hwn yn hannu o Gymru – Bryn Terfel y pennaf yn eu mysg, ond yn dynn wrth ei sodlau mae Katherine Jenkins, Catrin Finch, Dennis O’Neill, Llyr Williams, Gwyn Hughes Jones, Elin Manahan Thomas a’r seren mwy diweddar David Kempster. Ac yna cawn y cantorion hynny sy’n pontio’n ddi-drafferth rhwng y clasurol a’r poblogaidd, megis Aled Jones (oddi ar recordiad a wnaed yn 1985 pan oedd yn ei anterth fel canwr trebl), Rhys Meirion a Shân Cothi, a’r bachgen ifanc amryddawn Steffan Rhys Hughes. Ac ym myd y corau, lle bu Cymru’n amlwg erioed, mae cenhedlaeth newydd bellach yn cymryd drosodd ar flaen y llwyfan, - Only Men Aloud a Serendipity dan arweiniad disglair Tim Rhys Evans, lleisiau ifanc afieithus Ysgol Glanaethwy gyda Cefin a Rhian Roberts wrth y llyw, ac hefyd seiniau cyfoethog a disgybledig Côr Seiriol, Côrdydd, Godre’r Aran ac Orffiws Treforys. Ychwanegwch at y rhain un o fandiau pres gorau Ewrop, Band y Cory, a doniau caboledig Annette Bryn Parri, Gwawr Edwards a Paul Carey Jones, ac y mae gennych gasgliad clasurol gyda’r gorau a glywyd ar albwm erioed. 

  1. Benedictus (BRYN TERFEL/RHYS MEIRION)
  2. Adiemus (CÔR SEIRIOL)
  3. Pie Jesu (KATHERINE JENKINS/STEFFAN RHYS HUGHES)
  4. Bugeilio'r Gwenith Gwyn (CATRIN FINCH)
  5. Ave Maria (ALED JONES)
  6. Myfanwy (CÔR ORPHEUS TREFORUS)
  7. Suo Gân (RHYS MEIRION)
  8. Moonlight Sonata (ANNETTE BRYN PARRI)
  9. My Little Welsh Home (DAVID KEMPSTER)
  10. Iesu Annwyl (CORDYDD)
  11. Elen Fwyn (GWYN HUGHES JONES)
  12. Benedictus (SERENDIPITY)
  13. I'll Walk Beside You (DENNIS O'NEILL)
  14. Lisa Lân (SHÂN COTHI)
  15. Ora Pro Nobis (BRYN TERFEL)
  16. Nant Y Mynydd (GWAWR EDWARDS)
  17. Byd O Heddwch (CÔR GODRE'R ARAN)
  18. Der Schiffer (PAUL CAREY JONES)
  19. Where Eagles Sing (SEINDORF CORY)
  20. O Fortuna (GLANAETHWY)
Gweld y manylion llawn