The Welsh Gold Collection - Heartstrings
The Welsh Gold Collection - Heartstrings
SKU:SCD2586
Mae poblogrwydd y delyn, offeryn cenedlaethol y Cymry, ar gynnydd, ac y mae pob ffurf ar yr offeryn yn dod yn fwy amlwg yn ein diwylliant fel cenedl. Mae telyn fach y beirdd a’r trwbadwriaid gynt wedi ennill ei phlwy yn ôl, y Deires yn llawer amlycach nag y bu, a’r delyn glasurol a’r Clarsach yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun newydd o hyd. Prawf o fywiogrwydd byd y delyn yw’r casgliad hwn, sy’n dwyn ynghyd rhai o delynorion amlycaf Cymru, ar amrywiaeth o offerynnau, yn canu eu hoff alawon Cymreig. Nid damwain a hap yw ein bod yn ymarfer yr ymadrodd “tannau’r galon” – dyma gasgliad sy’n dangos yn glir y cysylltiad agos rhwng dawn y telynor a theimladau dyfnaf y galon. Mwynhewch wledd “caniadau y tannau tyn”.
- Pibddawns y mwnci/Y Dyrnwr (CRASDANT)
- Myfanwy (DYLAN CERNYW)
- Polcas Llewelyn Alaw [Polca Trecynon/Polca Aman/Ploca Llewelyn Alaw] (GWENAN GIBBARD)
- Cadwyn o alawon gwerin [Yr eneth ga'dd ei gwrthod/Dafydd y Garreg Wen/Y deryn pur] (DAFYDD HUW)
- Cogau Meirion [Caniad y gog i Feirionnydd/Pibddawns Sir Feirionnydd/Pibddawns y gog] (ROBIN HUW BOWEN)
- Y Maerdy/Pibddawns Merthyr (DELYTH JENKINS)
- Ar lan y môr (MEINIR HEULYN)
- Syr Harri Ddu (ELINOR BENNETT)
- Merch Megan (RHES GANOL)
- Ar hyd y nos (NIA JENKINS)
- Helfa'r draenog [Ladis Y Ddawns/Jig Eldra ] (ROBIN HUW BOWEN)
- Nant y mynydd/Bwlch Llanberis (GWENAN GIBBARD)
- Llydaw (AR LOG)
- Cader Idris (ELINOR BENNETT/MEINIR HEULYN)
- Bugeilio'r gwenith gwyn (CATRIN FINCH)
- Llongau Caernarfon (MEINIR HEULYN)
- Conset Dafydd ap Gwilym/Symlen Ben Bys/Erddigan Tro'r Tant (TELYNAU BRO YSTWYTH)