Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Lleuwen

Tân

Tân

Pris arferol £2.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £2.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:GWYMONCD014

Tân yw albwm hir disgwyliedig diweddaraf y gantores ryfeddol Lleuwen. Yr un yw ystyr y gair Tân yn y Gymraeg  a’r Llydaweg, ac mae Tân yn ffrwyth y bartneriaeth gerddorol gyffrous rhwng Lleuwen a’r basydd arbrofol o Lydaw, Vincent Guerin. Mae’r ddau wedi cyd-gynhyrchu’r albwm, ac  wedi canu’r holl offerynnau - Lleuwen ar y gitarau, y drymiau a’r sither, a Vincent ar y bâs, yr offerynnau taro a’r ukulele.  Mae’r ddau hefyd wedi ychwanegu nifer o sosbenni ac offer arall o’r gegin!
Mae Lleuwen a Vincent yn credu eu bod wedi llwyddo i ddarganfod rhyw berthynas gerddorol hudolus, ac mai megis cychwyn y bartneriaeth yw Tân. Maent wedi mabwysiadu agwedd  syml ac agored wrth greu’r gerddoriaeth, gan adael i’r awen lifo, fel ‘tae.  Y canlyniad yw brwdfrydedd a rhyddid mynegiant, sy’n fêl i’r glust o’r dechrau i’r diwedd.
 
Ar hyn o bryd mae Lleuwen yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Llydaw, gan gadw dyddiadur prysur yn y ddwy wlad.  Aeth i Lydaw yn wreiddiol i gadw cyngerdd yn Lorient, ond wedi clywed yr iaith a blasu’r diwylliant, mi syrthiodd mewn cariad â’r wlad  gan benderfynu dychwelyd yno i ddysgu’r iaith a byw'r bywyd Llydewig.  Erbyn hyn mae hi wedi sefydlu ail gartref yn Carhaix (neu Karez yn Llydaweg) yng nghanolbarth Llydaw.

Mae’r Gymraeg a’r Llydaweg yn chwaer ieithoedd wrth gwrs, ac mae hyn wedi ychwanegu dimensiwn arall i fywyd Lleuwen, ac mae hi’n falch hefyd o fod wedi cael y cyfle i berfformio mewn dwy ddrama theatr Lydewig wrth weithio ar yr albwm. Mae pedair cân Lydewig ar Tân,  tair wedi eu cyfansoddi gan Lleuwen, ac un gan y bardd Llydewig enwog Lan Tangi.

Mae Tân yn ddilyniant o albwm diwethaf Lleuwen sef Penmon a ryddhawyd yn 2007, oedd hefyd yn cynnwys nifer o ganeuon gan Lleuwen ei hun.  Roedd albwm unigol cynta’ Lleuwen yn 2005, fodd bynnag, yn cynnwys fersiynau blaengar ac unigryw o hen emynau Cymreig.  Cafodd Duw a Wyr, gyda Huw Warren ar y piano, a Mark Lockheart ar y sacsoffon, ganmoliaeth uchel iawn gan yr Observer Music Monthly, Time Out, Mojo, y  Financial Times a’r Guardian.

 

  1. Lle wyt ti heno Iesu Grist?
  2. Mi wela’i efo fy llygad bach i…
  3. War varc’h d’ar mor
  4. Paid â sôn
  5. Ar goulou bev
  6. Cawell fach y galon
  7. Lludw
  8. Ma diaoulig dous
  9. Tachwedd
  10. Marteze
  11. Breuddwydio
  12. Mab y môr
Year
Gweld y manylion llawn