Tafod Dy Wraig
Tafod Dy Wraig
SKU:RASALCD025
Unwaith eto, mae’r grwp o Flaenau Ffestiniog wedi cynhyrchu albwm arbennig sy’n diferu gyda chaneuon llawn hwyl a chyffro. Mae Gwibdaith Hen Frân yn ffefrynnau ar donau Radio Cymru ac ar raglenni megis Bandit ers cychwyn y band yn 2006. Nid oes dylanwad cerddorol pendant ar ei steil o gyfansoddi a pherfformio, yn hytrach, mae steil y band yn adlewyrchiad o SAIN cyffroes a digri'r iwcalili ac o agwedd yr aelodau tuag at fywyd, ei ffrindiau a digwyddiadau! Mae ei ganeuon yn llawn o storiâu lliwgar am fywyd pob dydd.
Mae’r albwm yn cynnwys 14 trac llawn egni, sy’n cynnwys caneuon hen a newydd. Dywedodd Dylan Wyn, cyflwynydd BBC Radio Cymru, “Mae'n fraint cael chwarae caneuon newydd Gwibdaith am y tro cyntaf. Mae'r albwm Cedors Hen Wrach wedi cael ei chwarae'n dwll gyda chaneuon megis "Trôns Dy Dad", "Coffi Du" a "Car Bach Fi" yn profi i fod yn boblogaidd iawn fel ceisiadau ar ein rhaglen.
- Chdi a Fi
- Glyg Glyg Glyg
- Hogan Wirion
- Twmpath Twrch Daear
- Ffat Boi
- Ivamö
- Nicyrs Mam Glyn
- Cocl Town
- Llygad y Ffynnon
- Postman
- Wiwar
- Bitxiamo
- Paid â Bod Ofn
- Brycheuyn