Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Steffan Hughes

Steffan

Steffan

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2791

Mae Sain yn falch o gyhoeddi albym newydd sbon gan Steffan Hughes – casgliad o ganeuon Cymraeg a Saesneg mewn amrywiol arddulliau – gwerin, sioeau cerdd, clasurol poblogaidd a gospel, ynghyd â chyfansoddiad newydd gan Steffan ei hun a chân newydd gan Caryl Parry Jones. Cychwynnodd Steffan ganu yn 8 oed ac mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru ers yn oedran ifanc. Recordiodd ei albym cyntaf ‘Cana o dy Galon’ yn 12 oed ac yn dilyn y record hynny, derbyniodd wahoddiad i ganu deuawd gyda Katherine Jenkins ar ei chweched albym ‘Sacred Arias’ gan gyrraedd rhif 5 yn y siartiau albyms Prydeinig nôl yn 2008.

Erbyn hyn mae Steffan yn un o’r wyth aelod o Only Men Aloud, y grŵp lleisiol a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y BBC ‘Last Choir Standing’, gan berfformio ar lwyfannau ledled Prydain a’r byd. Ymysg yr uchafbwyntiau yn ei yrfa hyd yma mae perfformio yn Mumbai, India, cymryd rhan yn nhaith Haf y Proms Prydeinig a chanu i’r dorf yn Stadiwm y Principality yn ystod gemau rhyngwladol y 6 gwlad. Cyhoeddwyd chweched albym Only Men Aloud ynghyd â thaith Prydeinig i’w hyrwyddo yn 2018. Mae Steffan hefyd yn cyflwyno cyfres ‘Sioeau Cerdd Steffan Rhys’ ar BBC Radio Cymru gan sgwrsio gyda nifer o enwau mawr Cymreig y byd sioeau cerdd, yn ogystal a chanotrion ifanc.

Recordiwyd yr albym newydd yn Stiwdio Sain, Llandwrog dan ofal y cyfarwyddwr cerdd a’r cynhyrchydd Geraint Cynan. Yn westai arbennig ar yr albym mae’r gantores Mared Williams, ac mae Mared yn ymuno gyda Steffan i berfformio cyfansoddiad newydd sbon gan Caryl Parry Jones – Y Mur.

  1.  Dagrau yn y Glaw
  2.  Lisa Lân
  3.  Nid Fi yw Mab Fy Nhad
  4.  Thankful
  5.  Y Mur
  6.  Landslide
  7.  Ceiniog y Brenin
  8.  Glaw
  9.  His Eye is on the Sparrow
  10.  Feels Like Home
  11.  Eiliad

 

Gweld y manylion llawn