Stafell Sbâr Sain: Klust
Stafell Sbâr Sain: Klust
SKU:SAIN 2863
Pleser yw cyhoeddi bod Recordiau Sain a gwefan gerddoriaeth Klust yn partneru i ryddhau albwm aml-gyfrannog arbennig - allan ar feinyl 12” fis Tachwedd 2024.
Fel rhan o brosiect cydweithredol newydd a lansiwyd gan Sain, mae’r albwm deg trac wedi ei guradu gan Klust a bydd yn cael ei ryddhau ar Recordiau Sain. Y cyntaf mewn cyfres o recordiau, mae’r casgliad cyntaf hwn yn cynnwys gweithiau gwreiddiol gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd gan gynnwys Talulah, WRKHOUSE, Malan, Siula a Sywel Nyw a bydd yn cael ei ryddhau fel rhan o becyn ecsgliwsif gyda’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Klust. Recordiwyd y traciau yn Stiwdio 1 yn Sain, Llandwrog, dros gyfnod o chwe mis, gyda’r cyfarwyddwr ffilm, Aled Victor, yn creu cyfres o fideos tu ôl i’r llen i gyd-fynd â phob un o’r pum sesiwn byw.
Wedi’i lansio yn 2022, mae Klust yn llwyfan aml-gyfrwng i ddathlu, cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth newydd o Gymru, ac addas, felly, yw cael Klust i ddewis y traciau ar gyfer ‘Stafell Sbâr’ cyntaf Sain. Eglura sylfaenydd y wefan, Owain Williams: “Mae’n gasgliad cynhwysfawr, a dwyieithog, o draciau newydd sbon a fersiynau gwahanol o ganeuon sydd wedi eu rhyddhau eisoes ac mae’n tynnu sylw at rai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru heddiw. Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau law yn llaw â thrydydd cylchgrawn Klust - rhifyn 60 tudalen arbennig gyda chyfraniadau gan ugain awdur newydd o Gymru.”
Y cyntaf mewn cyfres o brosiectau cyd-weithio cyffrous gan Sain, bydd ‘Stafell Sbâr’ yn cael ei lansio yng Caffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol, nos Wener 9fed o Awst, gyda’r artistiaid a’r cynhyrchwyr Sywel Nyw, Talulah, Alaw a Don Leisure yn troelli’r traciau rhwng 19:00-22:00. Wedi’i wasgu ar 200 copi arbennig yn defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar, bydd y feinyl yn cael ei ryddhau fis Tachwedd ac ar gael yn ddigidol yn y flwyddyn newydd drwy Recordiau Sain. Dyluniwyd yr albwm, a’r cylchgrawn, gan y dylunydd graffeg annibynnol, Elis Povey.
Traciau:
- Ffafriaeth (Talulah)
- Out of the Blue (WRKHOUSE)
- Fallen Angel (Siula)
- Harbwr Aberteifi (Sywel Nyw)
- Lonely (Malan)
- Byth yn Blino (Talulah)
- Take (WRKHOUSE)
- Ofni (Cotton Wolf re-work) (Siula)
- Diwrnod Arall (Sywel Nyw)
- Dau Funud (Malan)