Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Gwenan Gibbard

Sidan Glas

Sidan Glas

Pris rheolaidd £9.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £9.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2581

Ail gasgliad disglair y delynores, y gantores a’r gyfansoddwraig o Benrhyn Llyn.

Gyda chyhoeddi “Y Gwenith Gwynnaf” (SAIN SCD 2504) yn 2006, gwelwyd fod talent newydd o bwys yn ffurfafen y byd gwerin Cymraeg, ac mae hen ddisgwyl wedi bod am yr ail albym hon gan Gwenan Gibbard. Mae’r casgliad hwn yn dangos ei doniau fel telynores, fel cantores, fel trefnydd ac hefyd fel cyfansoddwraig yn ei hawl ei hun, a’r doniau hynny’n cael eu sylweddoli i’r eithaf.Mae ‘Sidan Glas’ yn gasgliad blaengar o drefniannau newydd a chyffrous o’n caneuon a’n halawon gwerin Cymreig, gyda’r chwarae a’r canu wedi ei wreiddio’n ddwfn yng nghalon y traddodiad ac eto’n ffres a chyfoes. Yn gyfuniad perffaith o fywiogrwydd yr alawon dawns traddodiadol a’r hen benillion telyn a hiraeth a theimlad y caneuon gwerin, dyma albym sy’n arddangos amrywiaeth a chyfoeth y traddodiad gwerin Cymreig ar ei orau.

Fe glywir sawl cân ac alaw anghyfarwydd – caneuon a fu’n boblogaidd sawl blwyddyn yn ôl ac alawon heb eu cyhoeddi o blith nifer o lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol – y cyfan yn derbyn ymdriniaeth a threfniannau llawn gwreiddioldeb a newydd-deb gydag elfennau crosacennog a harmonïau atyniadol. Mae yma ganeuon ac alawon wedi eu cyfansoddi o’r newydd hefyd, yn ychwanegiad gwerthfawr i’r repertoire traddodiadol. Yn ymuno â Gwenan mae criw o gerddorion cydnabyddedig, amryddawn. y gitarydd Maartin Allcock (Jethro Tull, Fairport Convention, Bad Sheperds), y ffidlwr Stephen Rees (Crasdant), y ffliwtydd Dafydd Roberts (Ar Log), y ffidlwraig Angharad Jenkins (Calan), a Dewi Ellis Jones a’r cerddor Indiaidd Kuljit Bhamra (Bombay Dreams) ar yr offer taro. Y canlyniad yw cyfanwaith amryliw a chyfoethog sydd eto’n cadw’n driw i ysbryd ac anian y traddodiad gwerin Cymreig gan sicrhau lle blaenllaw i’r delyn a’r llais. Cryfder Gwenan fel artist yw ei bod wedi ei thrwytho ymhob agwedd o’r traddodiad Cymreig. Mae’n gyfarwydd â hanes a chefndir y caneuon a’r alawon, wedi gwneud llawer o’r ymchwil ei hun, ac yn rhan o’r traddodiad byw heddiw – yn perfformio mewn cyngherddau a gwyliau o bob math, yma yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys Gwyl Delynau Caeredin, Gwyl Delynau Caernarfon, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), Gwyl Gymreig Gogledd America, Gwyl Ryng-Geltaidd Lorient, Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn) a Celtic Connections (Glasgow). Mae’n cyfeilio mewn Eisteddfodau mawr a mân, yn rhan annatod o ddatblygiad cyffrous y Glerorfa (y gerddorfa werin newydd), ac yn gyfarwydd â phob cangen o’n traddodiad gwerin, gan gynnwys cerdd dant. Ar ‘Sidan Glas’ llwydda i weu yr holl agweddau hyn yn un tapestri lliwgar sy’n apelio at y pen a’r galon.

 

  1. Yr Aelwyd yn yr Hafod
  2. Pibddawns Rhif Un
  3. Tros y môr
  4. Lliw gwyn rhosyn yr haf
  5. Hufen y cwrw melyn
  6. Trafeiliais y byd
  7. Y Polaca Cymreig/Dafydd Ifan Tomos/Ymdaith yr yswain
  8. Gwenno tir mawn
  9. Yr Hafren
  10. Ymdaith Gwyr Machynlleth/Jig pen Tennyn/Sponc bogel
  11. Y sgwner tri mast
  12. Hen benillion
  13. Cân lleisoniaid/Cân y droell bach
  14. Cwicstep Cwm Bach/Y bwced/Cadw twmpath
  15. Paid â deud
Gweld y manylion llawn