Sicrwydd Bendigaid
Sicrwydd Bendigaid
SKU:SCD2530
Dyma Sain yn cyhoeddi cryno-ddisg o Trebor yn canu deuddeg o emynau, wyth yn Gymraeg a phedair yn Saesneg. Mae rhai ohonyn nhw yn rhai poblogaidd megis O fy Iesu bendigedig, Tydi a wnaeth y wyrth ac Abide with me, eraill ddim mor adnabyddus, nid fel emynau a genir yn unawdau beth bynnag, megis Fy Nuw fy Nhad fy Iesu ar y dôn Pen-lan a Wel dyma hyfryd fan ar y dôn Clorach, a fydd, synnwn i ddim, yn un o’r ffefrynnau. Fe’u trefnwyd ar ei gyfer gan Annette Bryn Parri a hi hefyd sy’n cyfeilio, ac y mae hynny ynddo’i hun yn warant o safon uchel.
Beth sy’n gwneud Trebor yn ganwr mor dda, yn ganwr mor boblogaidd? Mae’r ateb yn syml: cynhesrwydd ei lais a’i eirio clir. Ond mae mwy iddi na hyn’na hefyd. Nid argraff yn unig yw’r cynhesrwydd yn ei lais, nid act y datganwr proffesiynol, ond adlewyrchiad a mynegiant o’i bersonoliaeth gynnes, hoffus ef ei hun. A’r geirio clir? Dylanwad ei fagwraeth a’r cefndir cerddorol cyfoethog y magwyd ef ynddo yn y Betws, ac yn fwy na dim, dylanwad ei daid,. ei athro cerdd, ei fentor, ei arwr ym myd y gân. Y mae’r rhinweddau hyn i’w cael eto yn y gryno-ddisg newydd hon a bydd miloedd cefnogwyr Trebor yn llawenhau o’i gweld yn cael ei chyhoeddi.
Ac wrth wrando arni, cofiwch fod emynau yn golygu mwy i Trebor na chanu unawd a gwerthu record, gan ei fod hefyd yn codi canu o Sul i Sul yn ei gapel, capel y Gro yn y pentref. Trowch y peiriant ymlaen, eisteddwch yn gyfforddus a gadewch i’r hyfryd lais olchi drosoch, a bydd yr emynau hyn yn dod â llonder i’ch calon, gwên i’ch wyneb ac ambell ddeigryn i’ch llygaid.
- Dyma Fy Stori Dyma Fy Nghân
- O Fy Iesu Bendigedig
- Abide With Me
- A Yw Fy Enw I Lawr?
- Arglwydd Iesu Dysg Im Gerdded
- Love Divine All Loves Excelling
- Pererin Wyf
- Tydi A Wnaeth Y Wyrth
- Fy Nuw Fy Nhad Fy Iesu
- The Old Rugged Cross
- Wel Dyma Hyfryd Fan
- How Great Thou Art