Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Bob Delyn a'r Ebillion

Sgwarnogod Bach Bob

Sgwarnogod Bach Bob

Pris arferol £5.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £5.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2429

Albwm 17 trac sy’n cynnwys y goreuon oddi ar eu casetiau cynnar.

Mae cyfnod cynnar Bob Delyn a’r Ebillion ar CD o’r diwedd! Mae’r albwm yn cynnwys traciau oddi ar gaset ‘Sgwarnogod Bach Bob’ (CRAI C005 Awst 1990), caset ‘Bob Dolig’ (CRAI C0011 Rhagfyr 1990) ac EP ‘Bendigedig’ (Label Bos R002 2001). Mae’n albwm 17 trac sy’n cynnwys caneuon megis Lisa Lân, Gwyddel yn y Dre, Sgwarnogod, Dacw
‘Nghariad, Dolig Del, Walio a llawer mwy…..

Mae Bob Delyn a’r Ebillion dros y blynyddoedd wedi llwyddo i ddenu diddordeb rhyngwladol i’r siîn yng Nghymru drwy gyflwyno cerddoriaeth ffres ac ifanc sy’n cyfuno’r elfennau pwysig – yr arddull werin a’r iaith Gymraeg. Does dim amheuaeth bod bodolaeth a chenhadaeth Bob Delyn a’r Ebillion wedi cyfrannu’n fawr i ddelwedd Ryngwladol y sin roc/werin yng Nghymru…dim ond gobeithio y bydd Twm Morys yn cadw at ei eiriau yn rhifyn Hydref 2003 o Barn;

‘…..mewn tua ugain mlynedd fyddan ni’n hen ddynion efo barfau hirion mewn rhyw far yn rhywle yn gwneud synau cerddorol gwirion. Mae gwneud cerddoriaeth yn holl bwysig i fi, a fedra i ddim dychmygu bywyd heb hynny.

 

  1.  Un Bore / Asu Jo
  2.  Pontypridd
  3.  Lisa Lân
  4.  Gwyddel yn y Dre
  5.  Morgan Jones
  6.  Sgwarnogod
  7.  Dydd Llun, Dydd Mawrth
  8.  Dacw 'Nghariad
  9.  Cardotyn
  10.  Blewyn Glas
  11.  Y Sŵn
  12.  Dolig Del
  13.  Dacw 'Nghariad - Dyb Remics
  14.  Angel Bach Gwyn
  15.  Walio
  16.  Yr Afon
  17.  Blin
itunesLink
Year
Gweld y manylion llawn