Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Ar Log

Saith VII

Saith VII

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2770

Eleni mae grŵp gwerin proffesiynol cyntaf Cymru yn rhyddhau albym newydd – Ar Log VII, sef eu halbym cyntaf ers 22 o flynyddoedd!

Dwy flynedd yn ôl, yn 2016, roedd y grŵp yn dathlu 40 mlynedd o deithio mewn un-ar-hugain o wledydd dros dri chyfandir, ac yna ym mis Mawrth 2017 aeth y grŵp i mewn i’r stiwdio i gychwyn recordio Ar Log VII. Bellach mae’r albym wedi ei gwblhau a bydd Ar Log yn ei lansio yn y Tŷ Gwerin ar bnawn Sul cyntaf yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ar Awst 5ed – union 42 o flynyddoedd ers sefydlu’r grŵp ac union ddeugain mlynedd ers rhyddhau Ar Log (I) yn Eisteddfod Caerdydd yn 1978.

Ar Log oedd y grŵp proffesiynol cyntaf i ddod â cherddoriaeth ein gwlad i sylw cynulleidfaoedd amrywiol ar lefel ryngwladol. Mae’r grŵp wedi teithio a pherfformio ar draws Ynysoedd Prydain, Ewrop, Gogledd a De America gan hyrwyddo cerddoriaeth a chaneuon Cymru. Yn ystod y teithiau mae’r grŵp wedi rhannu llwyfan gydag enwau mawr y byd gwerin fel Alan Stivell o Lydaw, Mary Black, De Dannan, Dubliners, Y Brodyr Clancy, Y Furies a Clannad o Iwerddon, Battlefield Band, Boys of the Lough, Silly Wizard a Run Rig o’r Alban a nifer o artistiaid ‘canu byd’ o bedwar ban byd. Ffurfiwyd Ar Log yn arbennig i gynrychioli Cymru yn yr ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw yn wythnos gyntaf Awst 1976 ac fe’u hanogwyd gan y Dubliners i gario ymlaen ar ôl yr ŵyl, a dyma ni 42 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn rhyddhau eu hunfed albym ar ddeg!

  1.  Tŷ a Gardd
  2.  Mabon
  3.  Ffarwel i Ddociau Lerpwl
  4.  Bwlch Llanberis
  5.  Telynor Ifanc Llangwm
  6.  Caru Doli
  7.  Cân John Henry Jones
  8.  Boneddigesau Gwent
  9.  Y Fwyalchen Ddu Bigfelen
  10.  Daw Dydd
  11.  Broliant Bennett
  12.  Ar Hyd y Nos
Year
Gweld y manylion llawn