Sain y Corau
Sain y Corau
SKU:SCD2742
Casgliad o recordiadau newydd sbon gan gorau cymysg, merched a meibion, yn cynnwys Hogia Llanbobman (Ynys Môn), Lleisiau Mignedd (Dyffryn Nantlle), Côr Crymych a’r Cylch, Côr Eifionydd, Côr Merched Lleisiau’r Cwm (Dyffryn Aman), Côr Dre (Caernarfon), Côr Llanddarog, a Côr Ysgol Theatr Maldwyn. Mae’r casgliad yn cynnwys trefniannau newydd o ganeuon poblogaidd megis ‘Angor’ (Tudur Huws Jones), ‘Cana dy Gân’ a ‘Mae Cymru’n mynnu byw’ (Dafydd Iwan), a hefyd ganeuon newydd fel ‘Pwy all fesur lled y cariad?’ (Meirion Wyn Jones) a ‘O fy Iesu Bendigedig’ (Catrin Wyn Hughes). Clywir hefyd un o garolau Penri Roberts, Linda Gittins a Derec Williams, ‘Pan ddaeth y Gair yn Gnawd’, yn cael ei chanu gan gôr Ysgol Theatr Maldwyn.
Mae’r holl ganeuon hefyd ar gael fel copiau printiedig
- Yr Anthem Geltaidd (HOGIA LLANBOBMAN)
- Tyrd Aros Am Funud (LLEISIAU MIGNEDD)
- Pwy All Fesur Lled Y Cariad? (CÔR CRYMYCH)
- Mae Cymru’n Mynnu Byw (CÔR EIFIONYDD)
- O! Fy Iesu Bendigedig (CÔR MERCHED LLEISIAU’R CWM)
- Y Deryn Pur (CÔR DRE)
- Heddiw Yw’n Dyfodol (CÔR LLANDDAROG A’R CYLCH)
- Mae’r Môr Yn Faith (LLEISIAU MIGNEDD)
- Yma Wyf Finna’ I Fod (CÔR DRE)
- Y Gwrthodedig (HOGIA LLANBOBMAN)
- Cana Dy Gân (CÔR EIFIONYDD)
- Angor (CÔR MERCHED LLEISIAU’R CWM)
- Pan Ddaeth Y Gair Yn Gnawd (YSGOL THEATR MALDWYN)
- Adre’n Ôl (CÔR DRE)