Rhwng hwyl a thaith
Rhwng hwyl a thaith
SKU:Sain 1252
Yn ystod Chwefror a Mawrth 1982, bu Ar Log a minnau ar daith trwy Gymru, ac ynghanol hwyl y daith honno y tyfodd y syniad o wneud record ar y cyd. Roedd rhai o’r caneuon hyn ar raglan Taith 700, a’r trefniant offerynnol yn datblygu o noson i noson. Ganwyd y gân Ciosg Talysarn yng Nghefn Coch, ger Llanfair Caereinion, ychydig oriau cyn noson fythgofiadwy yn y lle hwnnw, pan oedd helynt y clustfeinio yn ei anterth. Cyfansoddwyd Paratoi at Ryfel rai wythnosau yn ddiweddarach, pan oedd Helyn gorffwyll De’r Iwerydd yn cyniwair. Ychwanegwyd Dail y Teim gan ei bod yn un o’r tonau syml-brydferth hynny sy’n mynnu aros yn y cof, a Lleucu Llwyd am ei bod yn un o ganeuon gwerin mwyaf diweddar Cymru, ac yn un o ffefrynnau’r daith. Mae Dechrau’r Dyfodol yn bur wahanol i’r lleill, ond yn gân sy’n her i’w chanu ac yn herio’r meddwl yn ogystal, a stamp dawn Gareth Glyn yn eglur arni.
Dyma nhw felly, casgliad amrywiol o’r dwys a’r digri, y trwm a’r ysgafn, a’r cyfan yn rhan o hwyl y daith. Rhwng yr hwyl a’r teithio, mae bywyd trwbadwriaid fel ni yn llawn i’r ymylon ac yn werth y byd - search ambell i flewyn gwyn a ddaeth yn eu sgîl! Dafydd Iwan.
Ochr 1
- Dail y Teim
- Mae Nhw’n Paratoi at Ryfel
- Abergeni
- Y Blewyn Gwyn
- Y Pedwar Cae
- Dechrau’r Dyfodol
Ochr 2
- Ciosg Talysarn
- Y Dref a Gerais i Cyd
- Heol y Felin/Ilffracwm
- Lleucu Llwyd
- Cerddwn Ymlaen
1982