Rhannu'r Hen Gyfrinachau
Rhannu'r Hen Gyfrinachau
SKU:SCD2778
Lleisiau merched byd canu pop a gwerin Cymru 1965 – 1975
Cymru, 1969: “Pwy fyddai wedi meddwl bum mlynedd yn ôl y byddai yna’r holl frwdfrydedd canu ysgafn yma yng Nghymru? Pwy dybiai y byddai yna siart recordiau Cymraeg a chyngherddau ‘pop’ a gwerthiant enfawr i recordiau?…Newid ddaeth o rod i rod? Wel do, – diolch byth!…Un peth i sylwi arno ynglŷn â’r brwdfrydedd newydd yma yw’r nifer syfrdanol o grwpiau newydd sy’n codi bob dydd, a’r rheiny gan amla yn grwpiau merched…” Cylchgrawn Hamdden, Ebrill 1969.
Yng nghefn gwlad Cymru, yn y trefi a’r dinasoedd, roedd ’na rywbeth yn y dŵr yng nghanol y 60au a merched ifanc yn darganfod eu llais a’u lle o fewn y byd adloniant poblogaidd – merched â chyfoeth traddodiad cerddorol eisteddfod, ysgol Sul, cyngerdd a noson lawen yn eu gwaed – yn mentro rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar ganu Cymraeg gan ymuno yn y chwyldro cerddorol Cymreig….
Ym mis Awst 1964, roedd llais newydd ym myd y popganeuon yn atseinio fel cloch drwy neuaddau dawnsio’r cyfnod a miloedd yn gwirioni ar Helen Wyn, y gantores 20 oed o Fangor, yn canu’r pops arferol yn Gymraeg, a chynulleidfaoedd yn gweiddi’n wyllt am gael clywed llais bachgennaidd cryf y gantores fach benfelen drachefn a thrachefn. Erbyn 1968, i lawr yng Nghaerdydd, roedd merch ifanc o’r enw Heather Jones yn dechrau gwneud enw iddi ei hun gyda’i chanu gwerin hudolus i’w chyfeiliant ei hun ar y gitâr. Ysgrifennai nifer o ganeuon gyda’i chariad, Geraint, ac yn fuan iawn daeth Heather, y fyfyrwraig ifanc yng Ngholeg Caerleon, yn un o leisiau mwyaf eiconig ei chyfnod.
Yn Llanbedr Pont Steffan roedd canu’n llenwi bryd tair merch yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd y dref, a phan glywodd un o gyflwynwyr y BBC y tair yn perfformio mewn cyngerdd lleol, daeth gwahoddiad iddynt recordio ym Mhontardawe ar gyfer label Dryw. Y Tlysau a ddewiswyd gan lawer led-led Cymru yn dilyn cais cenedlaethol am awgrymiadau am enw i’r grŵp, a mawr oedd y cyffro pan gyrhaeddodd y tair y stiwdio yn 1968 a threulio’r sesiwn yng nghwmni neb llai na’r canwr, y gitarydd a’r dewin o Solfa, Meic Stevens. Ychydig filltiroedd i ffwrdd, ym mhentref bach Silian, roedd Ann, Kitty a Susan, dwy chwaer a ffrind a fagwyd yn sŵn murmur yr afon Tawela, yn brysur iawn yn diddanu cynulleidfaoedd ymhell ac agos. Roedd canu calypso’r chwedegau yn eu hudo ac ymhen dim roedd gan Tannau Tawela record ar label Cambrian.
Dringodd y gân ‘Cariad’ i frig y siartiau pop yn ystod 1968, a’r grŵp? – Y Perlau, sef Rosalind, Dawn a Llinos – tair geneth, eto o Lanbed, a gafodd eu cofleidio gan Gymru gyfan. I gyfeiliant organ a gitâr roedd asiad swynol eu lleisiau i’w glywed mewn nosweithiau llawen a chyngherddau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, a hynny bron bob penwythnos. Erbyn 1970, roedd Rosalind yn dod i’r amlwg fel cantores unigol. Dyma Miss Asbri cyntaf Cymru a gyda rhyddhau ei record gyntaf ar label Cambrian yn 1970 roedd seren newydd yn ffurfafen canu cyfoes Cymru a’r ferch benfelen yn cychwyn ar daith a fyddai’n ei harwain i lwyfannau ym mhob cwr o Gymru, i stiwdios teledu Disc a Dawn ac i ganu, yn Gymraeg, ar gyfres enwog y BBC ‘Opportunity Knocks’.
Yn ôl proffwydoliaeth colofnydd Y Cymro ar ddiwedd 1968, byddai record gyntaf y gantores o Faesteg, Mari Griffith, yn sicr o ddod yn boblogaidd yn 1969. Daeth y broffwydoliaeth yn wir. Yn ei fflat ym Manceinion, dysgodd chwarae’r gitâr wedi i’w chymdogion angherddorol gwyno am sŵn y piano, ac i’w chyfeiliant ei hun, bu Mari Griffith yn swyno gwylwyr rhaglenni BBC Cymru’r cyfnod – rhaglenni fel Hobyderidando, Stwidio B, Ryan a Ronnie, i enwi dim ond rhai. Crwydrodd Evelyn Bridger ymhell o’i hardal enedigol yn Sir Fôn i wneud ei marc. Aeth dros y dŵr i Singapore am gyfnod ac yno cyrhaeddodd frig y siartiau gyda chân a recordiodd draw yno. Wedi dychwelyd i Gymru, rhaid oedd recordio fersiwn Gymraeg. Mae’r gân ‘Penblwydd Hapus’ yn diferu o arddull gerddorol cabaret chwareus diwedd y 60au a llais Evelyn yn gellweirus o unigryw. Yng Nghyffylliog ger Rhuthun, roedd Meinir Lloyd wedi bod yn denu a chyfareddu cynulleidfaoedd ers blynyddoedd cyn rhyddhau ei record gyntaf yn 1967 ac yna record o ganu penillion yn 1968. Yn 1969, daeth yr enwog ‘Watshia di dy hun’, cân a fyddai’n dal dychymyg y genedl a chân a fyddai’n gwneud y ‘comeback’ mwyaf yn hanes canu Cymraeg cyfoes…
Mae’n amlwg mai serch oedd testun mwyaf poblogaidd y canu ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au, a chaneuon byrlymus a gobeithiol am gyfarfod llanc golygus wrth fynd am dro ar hyd hen lwybr y mynydd yr un mor boblogaidd â chaneuon am dor-calon a hiraeth am y llanc a aeth i ffwrdd…. O oedran ifanc, roedd Doreen Davies yn giamstar ar ysgrifennu caneuon serch, ac ar ei record gyntaf i label Cambrian yn 1969, a hithau’n dal yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, dangosodd ei doniau i’r eithaf a’i llais cwynfannus, apelgar yn taro tant newydd yn sicr. Yr ochr arall i Fae Ceredigion, ar arfordir gogleddol Llŷn roedd Eirlys Parri eisoes wedi gwneud ei marc erbyn dechrau’r 70au, gyda’i llais hiraethus yn llawn o ramant y môr a’r mynydd. Yr un flwyddyn, yn 1970, roedd Y Melinwyr, criw o ferched o ardal Bancyfelin, Caerfyrddin, yn canu mewn cyngherddau ac ar raglenni teledu ac yn crwydro’r wlad gyda’u canu harmoni clos a bywiog.
O fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd roedd merch Ifanc o Ddyffryn Ardudwy, sef Gwenann, a’r grŵp enwog o Drawsfynydd, Y Pelydrau, yn rhannu’r un rheolwr. Roedd dyddiaduron perfformwyr y cyfnod yn llawn i’r ymylon a rhaid oedd cael rhywun i gadw trefn ar y galwadau a ddoi o bob cwr o’r wlad. Roedd cariad angerddol at fro eu mebyd yn Nhrawsfynydd yn britho caneuon swynol Y Pelydrau ac aethant ymlaen i gyhoeddi 7 o recordiau rhwng 1967 ac 1973. Canai Gwenann ar Disc a Dawn ac ar raglen deledu Iris Williams yn ei harddull werinol, naturiol ei hun.
Bu Y Diliau yn enw amlwg ar y sîn yng Nghymru am flynyddoedd. Gyda rhyddhau eu record gyntaf yn y 60au ar label Qualiton, dyma grwp oedd yn anadlu bywyd newydd i’r hen noson lawen Gymreig arferol. Erbyn 1969, blwyddyn rhyddhau eu record gyntaf ar label Cambrian, roedd Y Diliau ar eu newydd wedd ac asiad lleisiau swynol Gaynor, Mair a Meleri yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Label Sain oedd y label mwyaf newydd a chyffrous erbyn 1971 ac Eleri Llwyd oedd un o leisiau ffres y cyfnod – aelod o’r grŵp ‘Y Nhw’ a fentrodd i recordio’n unigol gyda’i llais ysgafn, melfedaidd. Melodiaidd a sidanaidd oedd y sŵn a anelai chwech o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd amdano yn 1972. Wedi ennill y gystadleuaeth canu ysgafn yn Eisteddfod yr Urdd y Bala saethwyd y grŵp Sidan i enwogrwydd a byddai eu canu yn newid sŵn canu ysgafn y 70au. Ond nid Sidan oedd yr unig grŵp i ddod o stabl Ysgol Glan Clwyd. Ar ddechrau’r 70au roedd grŵp arall o ferched, Swyn, yn cynnwys Seren Asbri 1975, Nerys Ann, yn dod i’r amlwg…
Wrth bori a chwilota yng nghrombil archif gerddorol y cyfnod, drwy dapiau llychlyd ar silffoedd stiwdio Sain, fesul cân, roedd ’na straeon a phrofiadau yn dod i’r amlwg. Roedd ’na gyffro ac emosiwn a chryn dipyn o waith ditectif i’w wneud. Mae gan bob un o’r merched hyn ei stori a’r caneuon yn aml yn lais profiad. Lle mae’r merched erbyn hyn a beth fu eu hanes? Haws yw darganfod gwybodaeth am rai na’i gilydd… Dechreuodd Janet Humphreys o ardal Groesffordd ger Conwy chwarae’r gitâr yn dair ar ddeg mlwydd oed. Gyda’i llais anghyffredin o swynol, dechreuodd berfformio yn lleol ac, yn y man, led-led Cymru. Cyhoeddodd un record yn 1972 ac yna diflannodd y llais hudolus megis seren wib… Dirdynnol yw gwrando ar lais unigryw y diweddar Ann Morris yn canu’r gân gofiadwy ‘Bydd hon yn ddigon’. Cymaint mwy dirdynnol yw’r gân o ddeall mai profiad personol o golled yw byrdwn y gân.
Be sy’n clymu’r merched ymai gyd at ei gilydd? – I ni, gwir deimlad ac emosiwn, amrywiaeth gerddorol eu harddulliau cyfansoddi a pherfformio a’u gallu rhyfeddol i’n cyffwrdd drwy neges syml a didwyll. Rhain oedd arwresau’r cyfnod ac yng nghanol y prysurdeb a’r emosiwn a’r gwaith caled roedd yr elfen bwysicaf un yn eu cynnal ymlaen – mwynhad. Pam arall fyddech chi’n “canu yn rhywle bob penwythnos..”…
Dyma 20 o gyfrinachau sy’n ysu am gael eu rhannu unwaith eto…
Golygwyd y casgliad gan Gwenan Gibbard ac Elin Evans (Sain)
- Hen Gyfrinach - ROSALIND LLOYD
- Nôl Ataf Fi - JANET HUMPHREYS
- Watshia Di Dy Hun - MEINIR LLOYD
- Cymylau - SIDAN
- Swcw, Swcw - TANNAU TAWELA
- Blodau'r Grug - EIRLYS PARRI
- Penblwydd Hapus - EVELYN BRIDGER
- Heulwen Mai - SWYN
- Bydd Hon yn Ddigon - ANN MORRIS
- La, La, La - Y PERLAU
- Englynion - Y PELYDRAU
- Y Gusan Gyntaf - Y MELINWYR
- Y Storm - DOREEN DAVIES (Lewis)
- Hyfryd Wlad Pen Llŷn - GWENANN
- Mae'r Oriau'n Hir - ELERI LLWYD
- Rhowch i Mi Eiriau - MARI GRIFFITH
- John Alfred - Y DILIAU
- O Fewn fy Nghalon i - HELEN WYN A HEBOGIAID Y NOS
- Rhaid i'r Plant - HEATHER JONES
- Trên Bach - Y TLYSAU