Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Pyroclastig

Pyroclastig

Pyroclastig

Pris rheolaidd €3,25 EUR
Pris rheolaidd Pris gwerthu €3,25 EUR
Pris gostyngol Gwerthu allan
Dyletswyddau a threthi wedi'u cynnwys.

SKU:RASAL CD042

By placing your order you agree to purchase from Global-e as the merchant of record, subject to Global-e’s Terms and Conditions and Privacy Policy, and share your information with Sain.

Pyroclastig - y band ifanc, gwahanol o Lŷn yn cyhoeddi eu EP cyntaf!

Ffurfiodd y band ym mis Tachwedd 2015 ar ôl i’r 5 aelod – Geth, Llŷr, Kieran, Hawys a Gruff gyfarfod yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli a perfformiwyd eu gig cyntaf ym mis Ionawr 2016 gan gefnogi Swnami yng Nghlwb Rygbi Pwllheli.  Yn yr un flwyddyn daeth y band yn drydydd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Recordiwyd yr EP ym mis Hydref 2016 gydag Osian ac Ifan Candelas yn stiwdio’r Drwm, Llanllyfni.  Dros yr haf eleni bu’r band yn perfformio yn yr Eisteddfod ac yn rhan o’r gig a werthodd allan yn y Bala gyda Yws Gwynedd ac Yr Eira - bu’r band hefyd yn perfformio yng Nghastell Deudraeth fel rhan o ddathliadau Gwyl Rhif 6. Mae gwaith celf yr EP gan yr artist Tem Casey.

  1.    Cwyr   
  2.    Gadael Fynd   
  3.    Cyfeiriad y Mŵg
  4.    ‘Run Un   
  5.    Dwytha’

Llŷr sy’n chwarae’r sax.  Mae’n byw ym Mwlchtocyn, Pen Llŷn a bu’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog cyn mynd i Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli.  Yn yr wythnosau nesaf mae’n symud i Gaerdydd i astudio Cerddoriaeth Boblogaidd yn yr Atrium yng Nghaerdydd.  Mae’n hoff o gerddoriaeth jazz yn ogystal â bandiau trymach fel Royal Blood.  

Kieran sydd ar yr allweddellau ac mae’n dod o Bwllheli. Mae ei chwaeth gerddorol yn reit amrywiol ond yn hoff iawn o'r band The 1975. Bydd yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd o fis Medi.  

Gethin o Dremadog sy’n chwarae’r gitâr. Roedd Gethin a Gruff yn ysgol Eifionydd efo'i gilydd.   Mae'n aelod o fand pres yr Oakeley hefyd ac ar fin symud i Aberystwyth i astudio Bioleg yn y Brifysgol yno.

Daw Hawys o Aberdaron ac mae’n chwarae’r bas ac yn canu. Mynychodd Ysgol Botwnnog. Hawys yw prif gyfansoddwraig y grŵp, a hithau hefyd sy’n ysgrifennu y geiriau i’r rhan fwyaf o'r caneuon .  Mae’n hoff o chwarae’r piano a’r delyn hefyd.  

Gruff yw drymiwr y grŵp ac mae’n byw yng Ngarndolbenmaen. Chwaeth gerddorol amrywiol gan Gruff hefyd ond yn hoff o jazz ac yn ddiweddar wedi bod yn gwrando ar grwpiau fel Oasis a The Smiths.  Bydd Gruff hefyd yn mynd i Gaerdydd i astudio Perfformio Cerddoriaeth yn yr Atrium.   

Gweld y manylion llawn