Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Hogia'r Wyddfa

Pigion Disglair

Pigion Disglair

Pris rheolaidd £5.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £5.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2569

Ail gasgliad o ganeuon enwocaf Hogia’r Wyddfa, y triawd lleisiol nad oes pall ar eu poblogrwydd.

Mae’r cyfan wedi ei ddweud, ac mae’n wir bob gair!
Ond gan fod cymaint o amser ers inni gael casgliad o ffefrynnau’r Hogia, gwyddom y bydd croeso gwresog i’r casgliad newydd hwn o’u caneuon gorau. Roedd y 70au yn gyfnod hynod o gyffrous yn y byd recordio Cymraeg, a llawer o’r cyffro a’r creadigrwydd yn troi o gwmpas beudy Gwernafalau, Llandwrog, beudy a wedd-newidiwyd yn stiwdio. Yno y bu Arwel, Elwyn, Myrddin, Vivian a Dic yn gweu eu harmonïau o gwmpas rhai o eiriau enwocaf ein beirdd, ac yn cyflwyno inni record ar ôl record hir o ganeuon cofiadwy.
Ychwanegwyd at y rhain “Rhaid inni Ddathlu” oddi ar yr albym o’r un enw a gyhoeddwyd yn 2001, gydag artistri Annette yn cymryd lle Richard Morris ar y piano. A dyma 20 trac o’r oes aur i ddathlu’r ffaith fod yr hogia’n dal i ganu, ac yn dal i beri pleser i Gymry ac eraill led-led y byd.
Fe’u cyhoeddir fel teyrnged i Richard Morris, a gyfrannodd gymaint i greu SAIN unigryw yr Hogia.

 

  • Chwarel Dinorwig
  • Ofer Chwilio
  • Gweddi Plentyn
  • Aberdaron
  • Doedd Dim Ar Ôl
  • Gwyn
  • Pont Yr Abar
  • Y Ferch Ar Y Cei Yn Rio
  • Cofio
  • Eifionydd
  • Draw Mae'r Llais Yn Galw
  • Lisa Lân
  • Pe Bawn I
  • Llongau Caernarfon
  • Yr Eneth Glaf
  • Clychau'r Gôg
  • Cerdd Yr Hen Chwarelwr
  • Amser Noswyl
  • Tymhorau
  • Rhaid I Ni Ddathlu
Gweld y manylion llawn