Penmon
Penmon
SKU:GWYMONCD001
Yn 2005, wedi cyfnod o ganu ym Mharis, yn Ronnie Scott's, Y Vortex a'r 606, a theithio ledled Cymru efo'r band jazz Acoustique, rhyddhaodd Lleuwen albwm o hen emynau Cymraeg mewn arddull gyfan gwbl newydd - Duw a Ŵyr. Cafodd yr albwm ei roi yng nghategori'r ugain uchaf yn Observer Music Monthly yn ogystal â chael pedair seren yng nghylchgrawn y London Time Out ac adolygiadau ffafriol yn Mojo, Y Cymro, Financial Times a'r Guardian.
Mae Penmon, ei halbwm newydd, yn dynodi newid byd i Lleuwen. Dim ond ers dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu, am gyfnod, ym Mhenmon, mae Lleuwen wedi teimlo'r awydd i gyfansoddi caneuon ei hun. Profiad newydd i'r gantores sy'n fwy adnabyddus am ddehongli caneuon pobl eraill. Mae Lleuwen yn grediniol mai Penmon sy'n gyfrifol am ei chaneuon newydd. "Penmon sy' wedi rhoi'r caneuon imi," meddai. "Caneuon Penmon ydyn nhw."
Anodd yw diffinio sain yr albwm sy’n llanw a thrai o jazz a cherddoriaeth werinol.
Bydd Lleuwen yn teithio trwy’r haf (gweler y dyddiadur llawn isod), gan ddechrau gyda noson lansio’r albwm yn Galeri, Caernarfon ar y 16eg o Fehefin. Bydd hi hefyd yn canu yng Ngŵyl Jazz Genting ym Malaysia cyn dychwelyd i Lundain i gyd-weithio gyda David Coulter. Bydd Coulter, sy’n chwarae’r llif ym mand Tom Waits ac yn gyfrifol am gynhyrchu’r sgôr i opera newydd Damon Albarn, yn siŵr o ychwanegu elfen arall at yr hyn sy’n ei hysbrydoli.
- Pererinion
- Dy gynnal di
- Fel Storm
- Bore Sadwrn
- Carreg
- Rhosyn Saron
- Chwalfa
- Daear a haul
- Wyt ti yna?
- Y darlun
- Gwinllan Wen/Finlandia