PECYN FEINYL ‘YMA O HYD’
PECYN FEINYL ‘YMA O HYD’
SKU:SAIN1275 & SCD1252 & SCD2846
DAFYDD IWAN AC AR LOG, ‘YMA O HYD’ –
Nifer cyfyngedig iawn, i ddathlu 40 mlynedd /
Feinyl wedi ei ail-ryddhau, pwysau trwm 180g /
Feinyl Eco Gyfeillgar C02 (e) Niwtral /
yn cynnwys 2 x cd bonws - ‘Rhwng Hwyl a Thaith’ (Dafydd Iwan ac Ar Log) + sengl Yma o Hyd Cwpan y Byd.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres newydd gan Sain o ail-gyhoeddiadau o rai o albyms y label ar feinyl a pha well ffordd i ddechrau’r cyfan na gyda albym ‘Yma o Hyd’, Dafydd Iwan ac Ar Log. A hithau’n 40 mlynedd ers rhyddhau’r albym eiconig ac hefyd yn flwyddyn dathlu penblwydd y dyn ei hun, Dafydd Iwan, yn 80, dyma’r dewis perffaith. Bydd y pecyn arbennig, cyfyngedig ei nifer, sydd hefyd yn cynnwys cd o’r chwaer albym, ‘Rhwng Hwyl a Thaith’, a cd o sengl ‘Yma o Hyd Cwpan y Byd’, yn cael ei ryddhau ar Dachwedd y 10fed i gyd-fynd gyda cyfres o gyngherddau arbennig gan Dafydd Iwan a gwesteion yn Galeri Caernarfon.
Ddeugain mlynedd wedi rhyddhau’r albym a’r gân a ddaeth, erbyn hyn, yn ail anthem cenedlaethol i’r Cymry, mae ‘Yma o Hyd’ yn sicr wedi cael bywyd newydd yn y flwyddyn a hanner ddwythaf. Yng ngeiriau Dafydd ei hun, “dechreuodd y cyfan gyda’r gêm yn erbyn Awstria ym mis Mawrth, a’r Wal Goch yn rhoi’r gân ar fap y byd. Yna ail berfformiad cyn gêm Wcrain, ac yr oedd y gân wedyn ar ei ffordd i Gwpan y Byd fel anthem ein tîm pêl droed cenedlaethol. Ond mae’r hyn a ddigwyddodd wedyn yn fwy o ryfeddod fyth, gyda phlant a phobl o bob oed o bob rhan o Gymru yn gwybod y gân, a phobl o bob rhan o’r byd yn gweld fod Cymru ar lwyfan y byd.”
OCHR 1
1 Y Wen Na Phyla Amser
2 Cwm Ffynnon Ddu
3 Adlais Y Gog Lwydlas
4 Tra Bo Hedydd
5 Laura Llewelyn
6 Ffidil Yn Y To
OCHR 2
7 Hoffter Gwilym, Mynydd Yr Heliwr, Nans O’r Felin, Hoffedd Jac Murphy
8 Cân i William
9 Cân Y Medd
10 Per Oslef
11 Y Chew Chant A Naw
12 Yma O Hyd
Cynnwys CD Rhwng Hwyl a Thaith -
OCHR 1
1 Dail y Teim
2 Mae Nhw'n Paratoi at Ryfel
3 Abergeni
4 Y Blewyn Gwyn
5 Y Pedwar Cae
6 Dechrau'r Dyfodol
OCHR 2
7 Ciosg Talysarn
8 Y Dref A Gerais i Cyd
9 Heol Y Felin/Ilffracwm
10 Lleucu Llwyd
11 Cerddwn Ymlaen
Sengl bonws cyfyngedig Yma o Hyd Cwpan y Byd -