Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Gai Toms a'r Banditos

Orig

Orig

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2809

Y cawr, y gŵr, y chwedl, yr arwr…
ORIG – Dathliad arall o’i fywyd, ond y tro hwn… drwy gyfrwng albwm cysyniadol gan Gai Toms.

Mae Orig Williams / El Bandito yn eicon cenedlaethol. Wedi cario’r ddraig i bedwar ban byd, wedi brwydro’r gwylltion gwyllta, wedi ennill, colli, disgyn, a chodi… heb os nac oni bai, wedi byw i’r eithaf.
Dyn ffair, dyn reslo, dyn teulu, dyn mentro…
Dyma chwip o albwm sy’n mynd a chi ar daith drimbwl-drambwl o fywyd Orig, o ‘Balmant Aur’ Ysbyty Ifan i’r rymbl yn y jyngl yng Nghalabar, Nigeria. Nid reslwr yn unig oedd Orig Williams, yn aelod o’r Awyrlu (RAF), yn beldroediwr, yn ddyn busnes, ac wrth gwrs yn ddyn teulu â chalon anferth at ei wlad.
“Roedd y llyfrau hunangofiannol yn wledd o straeon difyr, mae’r caneuon fel tasa nhw wedi cyfansoddi eu hunain bron!” Gai Toms
Yn yr 80’au roedd S4C yn blatfform newydd sbon i ddiwylliant Cymraeg, fel plentyn y cyfnod roedd Gai Toms yn gwirioni ar raglenni Reslo, ac yn ffan o El Bandito.
“Dwi’n cofio mynd i weld sioeau Reslo, ac yn cofio bloeddio ‘El Bandito, El Bandito…’ nerth ein pennau wrth iddo fyned i’r cylch sgwâr. Roedd ‘na deimlad, ‘da ni’n ok efo’r boi yma’, yng nghwmni El Bandito, fel tasa’n fab darogan yn edrych ar ein hola.”
Does dim cyfaddawdu i un arddull cerddorol ar yr albwm yma, roedd bywyd Orig yn rhy liwgar o lawer i’r fath beth. Ond, mae offerynnau megis yr acordion, ffidil, trwmped, trombôn a’r sax yn llwyddo i roi’r ffync, yn ogystal â‘r ffair, i’r holl beth. Mae blasau poeth ‘Mexicana’ Cymreig yma ac acw hefyd, os ydych ddigon craff eich clust. Albwm cysyniadol gwych sy’n ddathliad sonig haeddiannol o fywyd eicon cenedlaethol.
“Fysa Dad mor falch, dyn geirau oedd o…” Tara Bethan.
Roedd Orig wastad yn dyfynnu beirdd, yn enwedig Cynan fardd – roedd wrth ei fodd efo geiriau. Mae Gai Toms wedi llwyddo i ddod ag Orig yn fyw unwaith eto drwy ddefnydd o eiriau bachog a cherddoriaeth rymus.
‘Yn wyllt ac yn war…’ Myrddin ap Dafydd.
Ar y cyd â‘r albwm, mae Gai Toms hefyd wedi bod yn gweithio ar brosiect gyda’r saer /artist Rhodri Owen o Ysbyty Ifan ac mi fydd arddangosfa o waith Rhodri i’w weld yn Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Palmant Aur Y Migneint
2 2449290 Williams O
Reu Reu Reu / Tarw Nefyn
Bwth Mickey Kiely
5 Y Cylch Sgwâr
Marwnad Y Pehalwan
Bandits
Merched Marged Ifan
Calabar
10 Dy Wên
11 El Bandito

Year
Gweld y manylion llawn