Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Sain

Myfi Yw

Myfi Yw

Pris arferol £17.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £17.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:CS 100

Yn 1990, derbyniodd y tri ohonom, Derec Williams, Linda Gittins a Penri Roberts, gomisiwn gan Gwmni Teledu Opus 30 (Rondo Media erbyn hyn) i greu Oratorio newdd yn seiliedig ar ddigwyddiadau Y Pasg. Hefin Owen a'r diweddar Mervyn Williams a fu'n gyfrifol am ddwyn perswad arnom i fynd ati i greu y gwaith hwn ar gyfer aelodau Cwmni Theatr Maldwyn. Perfformiwyd yr Oratorio tua 12 o weithiau mewn  eglwysi a chapeli ar hyd a lled Cymru ac yna recordiwyd y cynhyrchiad ar gyfer S4C yn Eglwys Llanbadarn, ger Aberystwyth.

Seilir yr Oratorio ar Efengyl Sant Ioan ac yn arbennig ar wythnoa y Pasg, o'r ymdaith i menw i Jerwsalem hyd ar y croeshoelio. Wrth i ni baratoi rhaglen ar gyfer ein perfformiadau o'r Oratorio, cafodd Derec gymorth Huw Dylan Jones, athro Addysg Grefyddol yn Ysgol y Berwyn Y Bala i osod hanes wythnos Y Pasg yn ei gyd-destun yn Efengyl Sant Ioan.

Ein gobaith yw y bydd yr Oratorio Myfi Yw yn cael ei defnyddio gan yr 'oesoedd a ddêl' gan fod y neges a geir ynddi yn berthnasol ac yn bwysig i bob oes. I gyd fynd â chyhoeddi'r waith gan Cyhoeddiadau Sain, bydd Cwmni Theatr Maldwyn yn creu cynyrchiad newydd ar gyfer perfformiadau yn ystod Y Pasg 2019.

 

Hosana!

Ac yntau am unwaith

Myfi yw goleuni y byd

Y Gwrthod

Ciliodd y dyrfa

Y Swper Olaf

Myfi yw'r ffordd

Ysbryd y gwirionedd

Israel

Myfi yw'r wir winwydden

Cariad i'r byd

Casineb y byd

O! Dad, daeth yr awr

Y Bradychu

Cân y ceiliog

Y Treial

Golgotha

Gweld y manylion llawn