Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Sain

Morio Canu ~ Lawrlwytho yn unig (PDF)

Morio Canu ~ Lawrlwytho yn unig (PDF)

Pris rheolaidd £7.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £7.99 GBP
Pris gostyngol Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:CS059 (Lawrlwytho)

Detholiad o ganeuon Pasiant Port 2000-2014

Cerddoriaeth : Rhys Meredydd Glyn
Geiriau : Arthur Thomas, Phyllis Evans

Cyflwyniad
Ers llwyfannu’r pasiant cyntaf, Lle bu’r dŵr  i ddathlu’r Mileniwm, mae cyfres o bump Lle bu’r... wedi ymddangos.  Yr olaf oedd Lle  mae’r dathlu. Cyflwyniad oedd hwn, yn 2011, fel rhan o ddathliadau 200 mlynedd ers adeiladu’r Cob ym Mhorthmadog a gwireddu breuddwyd arloeswr arbennig, sef William Alexander Madocks.

Rhys Glyn, pennaeth Ysgol Cefn Coch, fu’n gyfrifol am gyfansoddi’r holl ganeuon sef dros 30 ohonynt a phob un yn wahanol. Tipyn o gamp! Dyma ddetholiad o rai ohonynt, heb anghofio prif awduron geiriau’r caneuon, Arthur Thomas, a’r diweddar Phyllis Evans.
Teimlai llawer y dylai ffrwyth eu llafur fel seiri geiriau a dawn Rhys fel cyfansoddwr gael ei gydnabod. Gobeithio y cewch chwithau, fel ninnau, sef aelodau o Pasiant Port, flas ar eu canu.

Richard Williams, Cadeirydd

Cynnwys:-
Y Jiwbilî  
Y Matador 
Môrladron 
Y Barbeciw 
Amser paratoi 
Chwifio hances wen
Tyrd, hel dy bac
Myfyrdod y fam
Y Llyfr Rations 
Pictiwrs Port 
Y Carnifal 
Porthmadog 

Gweld y manylion llawn