Moelyci
Moelyci
Mae Steve Eaves a’i fand Rhai Pobl o ardal Dyffryn Ogwen, wedi bod yn perfformio a recordio caneuon acwstig a chaneuon blws Steve ers dechrau’r 80egau, gan gynhyrchu 8 casgliad o’i ganeuon. Recordiwyd ei 9fed CD Moelyci dros gyfnod o 5 mlynedd mewn 5 stiwdio wahanol.
Ar gyfer y CD hwn, bu’n cydweithio â’i fand arferol gan gynnwys y cerddor amryddawn Elwyn Williams (gitarau ac allweddellau), Gwyn Jones (drymiau), Jackie Williams (llais), ac Iwan Llwyd (bâs), gyda chyfraniadau hefyd gan Owen Lloyd Evans (bâs dwbl), Jochen Eisentraut (piano a sacsoffon), Stephen Rees (ffidl), Gwyn Evans (trwmped) a Manon Steffan Ros (llais).
Mae’r CD yn gasgliad o 11 cân newydd o waith Steve ac mae’n cynnwys hefyd gyfraniad arbennig gan y Prifardd Gerallt Lloyd Owen yn darllen darnau o’i gerdd wych Y Gwladwr.
Ar gyfer clawr a llyfryn y CD bu Steve yn cydweithio â’r ffotograffydd o fri rhyngwladol, Rhodri Jones.
Cynhyrchwyd y CD gan Elwyn Williams, Owain Arwel Davies a Steve.
- Ymlaen Mae Canaan
- Gad Iddi Fynd
- Moelyci
- Taw Pia' Hi
- Lleuad Medi
- Bwgi Rhif 2
- Ni Sydd Ar Ôl
- Gwlad Y Caledi
- Pa Le Yw Hwn?
- Croeso Mawr Yn D'ôl
- Llifogydd Ym Mhentir
- Nos Da Mam
- Mesen