Mim Twm Llai
Mim Twm Llai - Goreuon
Mim Twm Llai - Goreuon
SKU:RASAL CD027
Methu â llwytho argaeledd casglu
CD i gofnodi traciau syfrdanol Mim Twm Llai!
Pa ffordd well o ddathlu’r Nadolig na eistedd o flaen tân mawr yng nghwmni ffrindiau a theulu gan wrando ar CD newydd o oreuon Mim Twm Llai? Mae Rasal yn falch cael cyflwyno’r albwm sy’n diferu gyda thraciau anhygoel oddi ar ‘O’r Sbensh’, ‘Straeon y Cymdogion’ a ‘Yr Eira Mawr’. Mae’r rhyddhad hwn yn cofnodi gwaith Mim Twm Llai a recordiwyd ar label Crai rhwng 2002 a 2006, ac yn cynnwys 19 o draciau syfrdanol gwerin, reggae a roc Mim Twm Llai (a adnabyddir hefyd fel Gai Toms). Mae Gai yn un o artistiaid mwyaf talentog a hawddgar y sin Gymraeg sy’n derbyn parch aruthrol gan gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.
Ar ôl bod yn aelod o’r band hynod llwyddiannus Anweledig ers tair blynedd, dechreuodd Gai deimlo’r awch i gyfansoddi caneuon acwstig eu naws. Wedi’i ddylanwadu gan yr athrylith Meic Stevens, dechreuodd gyfansoddi am gymeriadau yn ei filltir sgwâr dan yr enw, Mim Twm Llai. Dywedodd,
“Daeth yr enw o ddychymyg fy nghymydog, Kevin Evans, neu Prinsi fel mae pawb yn ei alw. Enw fy nhad oedd Meurig Thomas, a’i lys enw oedd Mim Twm, roedd fy chwaer fawr Elaine yn cael ei galw’n Mim Twm Bach gan Prinsi, felly... gan fy mod i’n iau, cefais i'r teitl Mim Twm Llai!”
Dros y blynyddoedd nesaf cyfansoddodd clasuron anthemig fel Sunshine Dan, Tafarn Yn Nolrhedyn a Wbancrw. Mae’r caneuon yn arddangos dawn unigryw Gai i adrodd storiâu lliwgar am gymeriadau a digwyddiadau dros felodïau hawdd a chofiadwy. Mae’r tri albwm yn adlewyrchu cyfnodau gwahanol o fywyd Gai ac erbyn rhyddhau Yr Eira Mawr roedd diwedd Mim Twm Llai, fel prosiect, ar y gorwel,
“Collais fy nhad a theimlais fod defnyddio ei ffug enw fel enw llwyfan braidd yn annaturiol. Yr un pryd, roeddwn yn teimlo nad oedd dau albwm Mim Twm Llai yn ddigon. Yn 2006, penderfynais wneud un albwm arall i wneud y nifer yn dri. Rhif lwcus yn ol bob son! Gyda’r albwm yma, roeddwn eisiau dweud ffarwel wrth yr enw. A gyda’r tri albwm yn eu cyfanrwydd, yn dweud ffarwel personol i fy nhad. Yr un pryd, roedd yn rheswm teilwng i symud ymlaen a defnyddio ffug enw fy hun - Gai Toms (Gareth Thomas).”
Dywedodd y digrifwr a’r awdur, Dewi Prysor,
“Fel Christy Moore ar yr Ynys Werdd, mae Gai Toms yn llawer mwy na cherddor dawnus a chanwr-gyfansoddwr arbennig iawn. Fel yr eicon Gwyddelig, mae o’n adnabod ei fyd a’i bobl, yn gofnodwr llên gwerin a sylwebydd cydwybodol ffraeth a thwymgalon, ac mae o’n storïwr, baledwr a bardd. Fel Christy hefyd, cofleidia Gai Toms bob math o arddulliau a dylanwadau, a’u cyflwyno i ni mor gartrefol a chynhenid â bara brith. O’r digri i’r dwys, boed gân serch neu stompar, yn ei eiriau cawn angerdd, tynerwch, emosiwn a ias. Gwna Gai i ni feddwl, gwna i ni chwerthin a gall wneud i ni golli ambell ddeigryn. Ond gorau oll, gwna i ni neidio i ben byrddau a chodi gwydryn i’r pedwar gwynt. Am y rhesymau hyn a mwy, y gwerinwr ffraeth a diymhongar o Danygrisiau fydd, os nad yw eisoes, ein Christy Moore ni.”
1.Sunshine Dan
2.Tafarn Yn Nolrhedyn
3.Cymru Contimental
4.Rhosyn Rhwng Fy Nannedd
5.Straeon Y Cymdogion
6.Ellis Humphrey Evans
7.Gerallt Gymro
8.Gwe Pry Cop Tom
9.Robin Pantcoch
10.Da Da Sur
11.Y Penblwydd
12.Arwain i'r Mor
13.Cwmorthin
14.Clwb Y Tylluanod
15.O Le Ga'i Eda?
16.Yr Eira Mawr
17.Does 'Na Neb
18.Tlws Yw'r Wen
19.Wbancrw
Rhannu
