Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Eifionydd Choir

Meseia

Meseia

Pris rheolaidd £5.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £5.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2243

Recordiad arbennig o Gytganau ac Unawdau'r Meseia gan un o brif Gorau Cymysg Cymru, Cerddorfa Siambr ac Unawdwyr o fri cenedlaethol.

Bu Côr Eifionydd wrthi yn ystod Ionawr a Chwefror, 2001 yn paratoi ac ymarfer tuag at un o’u prosiectau mwyaf uchelgeisiol. Buont yn recordio’r Meseia gan Handel i gyfeiliant Cerddorfa Siambr. Mae’r CD’n wedi cael ei rhyddhau gan Gwmni Recordiau SAIN – y tro cyntaf erioed i’r Meseia gael ei recordio yn y Gymraeg, a hynny gyda cherddorfa. Cafwyd dau sesiwn caled o recordio yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon. I ddechrau, recordiwyd y côr o dan arweiniad medrus Pat Jones i gyfeiliant Cerddorfa Siambr Gogledd Cymru dan ofal Edward Davies. Mewn sesiwn arall fe recordiwyd yr unawdwyr sef Siân Eirian (soprano), Helen Medi (alto), Ian Rees (tenor) ac Aled Edwards (bas). Emyr Rhys ac Annette Bryn Parri fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r CD, ac roeddynt wedi eu plesio’n fawr gydag ansawdd a safon y SAIN yn ystod y sesiynau recordio. 

  1. Agorawd
  2. Llonnwch chwi fy mhobl
  3. Pob rhyw bantle a lwyr gyfodir
  4. A gogoniant yr Iôr
  5. Cans i nyni fe aned mab
  6. Yn sydyn iawn yr oedd gyda’r angel/Moliant i Dduw
  7. Mae’n ddirmygedig
  8. Diau, diau Ef a ddug ein gwae
  9. Trwy’i gleisiau Ef fe’n iachawyd
  10. Crwydrasom ni fel praidd ar led
  11. Haleliwiau
  12. Mi wn mai byw yw Ef, fy mhrynwr
  13. Gwrandewch, dirgelwch a ddwedaf i/Yr utgorn a gân
  14. Teilwng yw yr Oen gadd ei ladd
  15. Amen
Gweld y manylion llawn