Man Gwyn
Man Gwyn
SKU:SCD2576
Nodiadau Dafydd Iwan:
Cyfansoddais y rhan fwyaf o’r caneuon hyn ar gyfer y rhaglenni teledu a wnaeth Tonfedd-Eryri ar gyfer S4C ar Batagonia, Gogledd America ac Ynys Corsica, a diolchaf i Hefin a Marian Elis a phawb arall oedd yn gyfrifol am y rhaglenni hynny am eu cymorth a’u cefnogaeth gyson. Diolchaf i S4C am gael defnyddio’r recordiad gwreiddiol o bedair o’r caneuon hyn, ond mae’r gweddill wedi eu recordio o’r newydd, a hynny mewn cyfnod rhyfeddol o fyr, ac y mae arnaf ddyled fawr i Maartin am wneud hynny’n bosib, ac am ei hynawsedd a’i ddoniau disglair.
Ychwanegir dwy gân arall fel bonws, er nad ydyn nhw’n amherthnasol i weddill y caneuon, sef “Daeth yr Awr, Daeth y Dyn”, cân deyrnged i Gwynfor Evans, a’r gân a gyfansoddais ar gyfer John ac Alun, “Yr Ynys”. Y llinyn arian sy’n rhedeg drwy’r cyfan yw’r syniad o wladgarwch a chenedlaetholdeb, a’r freuddwyd o greu Cymru newydd well yn y “man gwyn man draw”, neu well fyth, yma ar ddaear Cymru.
- Ar y Mimosa
- Can Michael D Jones
- Tyred f'anwylyd
- Porth Madryn
- Y rheilffordd gyntaf
- Tua Cwm Hyfryd
- Can y ddwy chwarel
- Ynys Ellis
- Y Cymro a'r aur
- Hollywood
- Baled Joe Hill
- Merch y breuddwydion
- Hwiangerdd Corsica
- Yr ynys
- Daeth yr awr daeth y dyn