Mali - Y Caneuon a'r Storiau
Mali - Y Caneuon a'r Storiau
SKU:SCD2810
Y gantores glasurol, Gwawr Edwards, i gyhoeddi llyfr a CD newydd i blant bach Cymru.
Mae Gwawr yn wyneb ac yn llais cyfarwydd fel cantores broffesiynol, mae’n byw yng Nghaerdydd ond mae ei gwreiddiau’n ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion lle y magwyd yng nghanol bwrlwm y byd amaethyddol. Mae’n fam i ddau o blant ifanc – Nel ac Ynyr ac yn awyddus i’r ddau brofi’r bywyd amaethyddol fu’n rhan mor amlwg o’i phlentyndod hi. Dyma fu’n sbardun tu ôl i’r prosiect newydd yma ac yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio ar lyfr newydd o straeon i blant yn seiliedig ar anturiaethau Mali'r ci. Mae’r llyfr, sy’n llawn lliw, yn cynnwys 4 stori am Mali’r ci ac mae pob stori yn canolbwyntio ar un o’r tymhorau gan ein harwain trwy galendr y byd amaethyddol.
Y Lolfa sy’n cyhoeddi’r llyfr ac i gyd-fynd gyda’r storiâu mae Gwawr hefyd wedi recordio casgliad o ganeuon fydd allan ar CD gan Recordiau Sain. Mae’r storiâu a’r caneuon yn Gymreig iawn ei naws, ac yn cyflwyno’r plant i ddywediadau a chwpledi a hefyd clywir geiriau T Llew Jones ar ambell i gân ar y CD. Bu Gwawr yn recordio’r caneuon yn Stiwdio Sain gyda’i chwaer Menna yn cyfeilio ar y piano a Gwenan Gibbard ar y delyn. Cynhyrchwyd yr albym gan Aled Wyn Hughes a’r gwaith celf arbennig gan yr artist Ali Lodge.
Dewch draw i ddweud helo! Bydd cyfle hefyd i gyfarfod Mali y spaniel bach ag ysbrydolodd y llyfr!
1 Y Gwanwyn
2 Mali
3 Enfys
4 Haf
5 Picnic Yr Haf
6 Dawns Y Dail
7 Diolch
8 Misoedd Y Flwyddyn
9 Titw Tomos Lâs
10 Calennig
11 Siôn Corn
12 Carol
13 Stori’r Gwanwyn – Mali Ar Y Fferm
14 Stori’r Haf – Picnic Pen-Blwydd Mali
15 Stori’r Hydref – Diolch Mali!
16 Stori’r Gaeaf – Mali Yn Yr Eira