Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Geraint Lovgreen a'r Enw Da

Mae'r Haul Wedi Dod

Mae'r Haul Wedi Dod

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2808

Mae Prif weinidogion Lloegr yn mynd a dod, ond mae Geraint Lovgreen gyda ni o hyd.
A does yna neb yr un fath â fo. Neb yr un fath am dynnu dagrau heb fod yn sentimental, neb yr un fath am wneud inni chwerthin heb fod yn wirion. A neb yr un fath am ei dweud hi fel y mae (gweler ‘Gwylio Guto ar y teli’).
Os oes gwobr i gael am eiriau albwm, rhowch hi i hon. Albwm sy’n cael ei chyflwyno i gofio’r bardd a’r basydd Iwan Llwyd – a’r albwm gynta gan y band heb i Iwan fod efo nhw. Iwan ei hun sy’n gyfrifol am eiriau nifer o’r caneuon, ac mae’r gweddill gan Geraint, Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn, rhai yn hannu o’r teithiau barddol a arloeswyd ganddyn nhw.
Y dwys (does neb yn medru canu i gyfeillion ymadawedig fel Geraint) a’r digri, y difrifol a’r dychanol, a’r cyfan i gyfeiliant y casgliad arferol o offerynnau afieithus gan yr Enw Da (ac ambell i gyfaill newydd annisgwyl).
Hyd yn oed os yw hi’n tywallt y glaw tu allan, be well na ‘Mae’r Haul Wedi Dod’, cân a ysbrydolwyd gan wyrion Geraint, ac a gyfansoddwyd ar y ffordd o’r Feithrinfa? Ydi, mae’r haf wedi dod!!
Dafydd Iwan, Mehefin 2019

Bydd Geraint a’r Enw Da yn dathlu rhyddhau’r albwm gyda gig lansio yn Galeri, Caernarfon – nos Wener, Mehefin 21ain gyda Bwncath yn cefnogi. Gwaith celf yr albym gan yr artist Sioned Medi Evans. Daw Sioned o Ben Llŷn ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau creu gwaith lliwgar a bywiog sydd yn trafod golygfeydd o fywyd bob dydd.

Mae’r Haul Wedi Dod
2 Ar Daith
Ffarwel I Fangor Ucha
4 Y Gaucho
5 Y Dieithryn
Baled Mansel A Mi
Syrthio Ar Fy Mai
Rhedeg Oddi Wrth Y Maffia
Gwylio Guto Ar Y Teli
10 Hydref O Hyd
11 Ffarwelio
12 Am Fod Yr Haul Yn Noeth

Gweld y manylion llawn