Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Pedair

mae 'na olau

mae 'na olau

Pris rheolaidd €16,50 EUR
Pris rheolaidd Pris gwerthu €16,50 EUR
Pris gostyngol Gwerthu allan
Dyletswyddau a threthi wedi'u cynnwys.

SKU:SCD2837

By placing your order you agree to purchase from Global-e as the merchant of record, subject to Global-e’s Terms and Conditions and Privacy Policy, and share your information with Sain.

Bum mlynedd ers eu gig cyntaf yn Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017, mae Pedair yn hynod falch o gyflwyno eu halbym cyntaf, albym sy’n crisialu eu teimladau, eu profiadau a’u dyheadau wrth iddyn nhw werthfawrogi rhai o bethau pwysig bywyd – y byd o’n cwmpas, iaith a thraddodiad, cyfeillgarwch a gobaith.

Ers rhyddhau eu recordiadau cyntaf yn ystod y cyfnod clo yn 2020, cydiodd canu Pedair yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, a daeth eu harmoniau ysgubol, eu hymdriniaeth grefftus o’r traddodiad ac agosatrwydd y caneuon yn ffynhonell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobl (yn cynnwys Pedair eu hunain!). Mae’r bum cân a recordiwyd ganddynt yn eu cartrefi dros y cyfnod clo yn cael eu cynnwys ar yr albym ac mae’r gweddill yn ganeuon sydd wedi tyfu a ffurfio dros y flwyddyn ddiwethaf, y cyfan yn dod ynghyd i greu cyfanwaith sy’n gyfuniad perffaith o’r gwerin a’r gwreiddiol ac yn arddangos eu doniau fel chwedl-ganwyr y traddodiad gwerin a’u crefft fel cantorion-gyfansoddwyr medrus. Drwy seiniau’r lleisiau, y gitârs, y telynau, y piano, yr acordion a’r organ geg, rhont fywyd newydd i ganeuon gwerin cyfarwydd ac anghyfarwydd tra ar yr un pryd cawn ganddynt brofiadau oesol ar ffurf newydd sbon. Gyda chyfraniadau ar y bas a’r drymiau gan Aled Wyn Hughes a Dafydd Hughes daw’r hen a’r newydd, y cyfoes a’r traddodiadol yn un i greu llais unigryw pedair Cymraes yn yr oes hon.
Mae ymdeimlad cryf o Gymreictod yn llifo drwy’r albym a thrac teitl yr albym, ‘Mae ’na Olau’, yn myfyrio ar ddyfodiad posib y Mab Darogan chwedlonol tra’n archwilio’r posibilrwydd mai merch fydd, efallai, yn goleuo’r ffordd i ni. Yn yr un modd mae curiad cyson y gân ‘Iaith’ yn dathlu’r ffaith bod y Gymraeg yn parhau i fod yn rhan annatod o galon ein cenedl, a seiniau cyfareddol ac oesol ‘Dawns y Delyn’ yn foliant i’r delyn ac i Gymru a’i phobol. Mae ‘Philomela’ yn gân werin hynafol, ei geiriau yn dyddio o’r 17eg ganrif a’r cyfeiriadau at y duwiau Groegaidd wrth ddisgrifio adar yr ardd yn ei gwneud yn anghyffredin o apelgar tra mae’r shanti ‘Teg oedd yr Awel’ yn mawrygu’r llong enwog, llawn rhamant Cymreig y môr, Fflat Huw Puw. Hiwmor a llais y ferch ddaw i’r amlwg yn ‘Cân y Sbif’ a ‘Marged Fwyn’ a chariad mam sy’n llifo drwy ‘Siwgwr Gwyn’.
A’r albym wedi ei gyd-gynhyrchu gan Pedair ac Aled Wyn Hughes, mae cyfraniad Aled i’r broses recordio, o’r cychwyn, wedi bod yn holl ganolog. Meddai Aled: “Rydw i wedi cael y pleser o weithio efo Pedair o’r cychwyn. Mae eu gallu a’u dyfeisgarwch wrth greu cyfanweithiau drwy gyfuno amrywiol agweddau o gerddoriaeth werin a thraddodiadol yn rhyfeddol.” Yn yr un modd mae Pedair yn cydnabod eu dyled enfawr i Aled a’i fanylder a’i gynnildeb cerddorol yn amhrisiadwy yn ystod y broses recordio.
Drwy roi ynghyd yr wyth cân newydd a recordiwyd yn Stiwdio Sain rhwng Medi 2021 ac Ebrill 2022 a’r caneuon a recordiwyd ar wahân yn ystod cyfnod clo 2020 (Cân Crwtyn y Gwartheg, Cân y Clo, Llon yr Wyf, Cân i Rhodri Dafydd a Saith Rhyfeddod), dyma albym sy’n gofnod o daith Pedair hyd yn hyn – taith sy’n ffynnu ar gydweithio a pherfformio’n fyw, rhywbeth mae’r bedair yn edrych ymlaen yn arw at gael gwneud rhagor ohono dros yr haf.

1 Teg oedd yr awel

2 Cân crwtyn y gwartheg 

3 Cân y clo

4 Cân y sbif 

5 Iaith

6 Philomela

7 Dawns y delyn

8 Siwgwr gwyn

9 Marged fwyn 

10 Saith rhyfeddod

11 Cân i Rhodri Dafydd

Gweld y manylion llawn