Love Songs
Love Songs
SKU:SCD2571
Mae Meic, y canwr bytholwyrdd o’r Solfa, wedi casglu ynghyd eu hoff ganeuon Saesneg ar gyfer yr albym hon. Bu’n recordio yn ystod 2009, ac wrth weithio ar y caneuon, sylweddolodd mai serch oedd y thema a godai dro ar ol tro, a phenderfynodd mai casgliad o ganeuon serch fyddai’r albym. Cyfansoddodd y gyntaf o’r rhain pan oedd yn 18 oed, newydd ddechrau ysgrifennu barddoniaeth a chyfansoddi caneuon, a’r olaf yn ystod y sesiynau recordio yn 2009. Ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn dyddio o’r 60au, ac heb eu recordio yn Saesneg tan yn awr.
Daw’r ysbrydoliaeth i’r caneuon o brofiadau bywyd Meic, yn cyffwrdd pob agwedd o gariad, a phob cân yn cynnwys ei stori ei hun. Mae Stargirl yn sôn am ysbryd ffrind iddo a lofruddiwyd gan ei chariad, a Bound for the Baltic Sea yn codi o hanes ei ewyrth a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd cyn i Meic gael ei eni, ac a anfarwolwyd yn ei gampwaith Cymraeg Cân Walter. Cyfansoddwyd Sing a Song of Sadness yn wreiddiol i’w chanu gan Marianne Faithfull, ac fe gyrhaeddodd y pump olaf ar gyfer cystadleuaeth Eurovision; mae Meic yn falch erbyn heddiw nad aeth ymhellach! Ysbrydolwyd Deep in my heart yn fwy diweddar gan ei ffrind agos Lleuwen sydd hefyd yn canu llais cefndir ar yr albym hon.
Mae’r modd y mae Meic wedi cadw’i boblogrwydd ers y 60au yn wybyddus i bawb sy’n siarad Cymraeg, ond mae’n werth cofio mai yn Saesneg y recordiodd ei albym gyntaf, ar label y Warner Brothers, ac y mae wedi cyfansoddi sawl un o’i glasuron yn Saesneg cyn ei throsi i’r Gymraeg. Yn ddiweddar, mae diddordeb o’r newydd yn ei ganeuon ymhell y tu hwnt i ffiniau’r Gymraeg, ac i grwpiau fel y Super Furry Animals a Gorky’s, mae caneuon Meic yn rhan o’u cefndir a’u hysbrydoliaeth.
Mae gan Meic gyfres faith o albyms i’w enw, y rhan fwyaf ar labeli SAIN a CRAI, ac yn 2002, casglwyd ynghyd 57 o’r traciau a recordiwyd ganddo rhwng 1968 ac 1979 ar becyn 3xCD sy’n cael ei ystyried yn un o drysorau’r byd roc Cymraeg. Ac er ei fod bellach yn nesau at ei ben-blwydd yn 70 oed, mae Meic yn dal i berfformio led-led gwledydd Prydain, ac y mae ei boblogrwyd yn dal i ledu yng Ngogledd America, a gwledydd fel Llydaw, lle bu’n byw am gyfnod, wedi ei ysbrydoli gan y gwin, y bwyd a’r gerddoriaeth.
- Deep in my Heart - I Do Believe
- Bound for the Baltic Sea
- Stuck in the Middle
- Country Boy
- Still Waters
- Stargirl
- Big Black Betty
- Blue Sleep
- Talkin' to Myself
- Song of Sadness
- Ghosts of Solva
- I Don't Understand at All
- She Does Not Know I Have to Go