Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Tecwyn Ifan

Llwybrau Gwyn

Llwybrau Gwyn

Pris arferol £14.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £14.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2672

Daeth Tecwyn Ifan i amlygrwydd yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Bangor, a'i ganeuon yn llais i fudiad Adfer, ond hefyd yn llais i ddyheadau dyfnaf y Cymry a'u hymrwymiad i'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Cristnogol Cymraeg. Yn bregethwr wrth ei alwedigaeth, bu'n weinidog yn Sir Benfro, ei sir enedigol, am gyfnod cyn gadael i weithio i'r Fenter Iaith leol. Dychwelodd i'r weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr yn Llanddoged, ger Llanrwst ac mae ei ofalaeth bellach dros ardal Blaenau Ffestiniog. Mae'n parhau i ganu ac i gyfansoddi heddiw. Yn ifanc iawn, roedd ef a'i frawd y cerddor Euros Rhys yn aelodau o Perlau Taf, ond buan y datblygodd ei lais ei hun fel cyfansoddwr a chanwr. Cyhoeddodd gyfres o recordiau hir: Y Dref Wen, Dof yn ol, Goleuni yn yr hwyr, Edrych i'r gorwel, Herio'r oriau du, Stesion Strata a Wybren Las ac mae’r cyfan yn rhan o’r pecyn 5 cd newydd ‘Llwybrau Gwyn’ a gyhoeddir gan Sain, ynghyd â 7 cân newydd sbon a recordiwyd yn stiwdio Sain ym mis Mawrth ac Ebrill eleni o dan ofal y cynhyrchydd Hefin Elis.  

 Cyflwyniad Tecwyn Ifan i’r casgliad ‘Llwybrau Gwyn’ :
Diolch i Sain am weld digon o werth yn fy hen recordiau – o’r Dref Wen i’r Wybren Las - i’w hail-gyflwyno ar ffurf bocs set. Yn fonws cefais recordio saith cân newydd i’w rhoi at y lleill dan y teitl Pob Un â’i Stori. Yn eu plith mae Cân yr Adar Mân gan Mererid Hopwood sy’n sôn am y drones -  sef yr awyrennau dibeilot sy’n cael eu hymarfer dros ardal helaeth o dde-orllewin Cymru ar hyn o bryd. Cân arall yw Gwrthod Bod yn Blant Bach Da gan Myrddin ap Dafydd sy’n cofnodi sefydlu Cymdeithas yr Iaith hanner canrif yn ôl i eleni. Diolch i Mererid a Myrddin am eu geiriau grymus.
Diolch hefyd i deulu Iwan Llwyd am adael i mi ganu Y Groesffordd. Cefais y geiriau gan Iwan y tro olaf i mi fod yn ei gwmni mewn noson Stomp yn Llanrwst. Mae’n debyg bod y gerdd yn perthyn i sgript ‘Catraeth – Daeth Un yn Ôl’ y bu Iwan ac eraill yn gweithio arni ychydig flynyddoedd yn ôl. ’Chlywodd Iwan ’mo’r gân…
Diolch i’r cerddorion a’r cantorion ac i bawb arall sydd wedi bod yn cydweithio gyda mi ar y caneuon newydd yma yn ogystal â’r hen rai.
Mae’r diolch pennaf i chi a brynodd y bocs, am eich diddordeb yn fy nghaneuon ar hyd y blynyddoedd. Gobeithio y cewch flas yn ail-wrando arnynt wrth iddynt eich arwain ar hyd rhai o’r llwybrau gwyn yn buom yn eu cerdded gyda’n gilydd.
Tecwyn Ifan
Cefndir y caneuon :

  1. Dy Garu Di Sy Raid

Mae’r tri phennill cyntaf yn draddodiadol, ac yn sôn am leoedd yng nghyffiniau Dyffryn Conwy. Engreifftiau sydd yma o rywun neu rywrai yn ceisio rhoi stop ar gariad. Ond er gwaetha’r bygythiad mae’r cariadon yn mynnu dal wrth ei gilydd!

  1. Ysbryd y March Haearn (er cof am Barry Cawley)

Mae wedi dod yn arferiad lle’d gyffredin ers tro bellach i osod beic wedi ei baentio’n wyn gerllaw lle mae damwain beic angheuol wedi digwydd. Mae un o’r beiciau hyn i’w weld ger Llanrwst, yn dynodi’r fan lle lladdwyd Barry Cawley mewn damwain beic yn y flwyddyn 2000. Roedd Barry yn gyn-aelod o grwp Y Cyrff ac yn gysylltiedig â’r Catatonia cynnar.  

  1. Y Groesffordd

Cefais eiriau’r gân yma gan Iwan Llwyd y tro olaf i mi fod yn ei gwmni mewn noson Stomp yn Llanrwst. Mae’n debyg bod y gerdd yn perthyn i sgript ‘Catraeth – Daeth Un yn Ôl’ y bu Iwan ac eraill yn gweithio arni ychydig flynyddoedd yn ôl. ’Chlywodd Iwan ’mo’r gân…

  1. Ar Doriad Gwawr

Cân am dre yn Llydaw yw hon, lle mae dyfodiad archfarchnad wedi effeithio’n andwyol ar fywyd ac arferion pysgotwyr ac amaethwyr lleol. Mae’n stori gyffredin i sawl gwlad.

  1. Y Dathliad

Cân yn seiliedig ar stori ‘Noson y Fodrwy’ gan Eleri Llywelyn Morris yw hon. Un dehongliad posib o’r stori sydd yma. Falle bod yr hyn y mae rhywun arall yn gweld yn y stori yn wahanol!

  1. Gwrthod Bod yn Blant Bach Da

Daeth geiriau’r gân yma gan Myrddin ap Dafydd ac mae’n cofnodi sefydlu Cymdeithas yr Iaith hanner canrif yn ôl i eleni.

  1. Cân yr Adar Mân

Cân yr Adar Mân gan Mererid Hopwood sy’n sôn am y drones -  sef yr awyrennau dibeilot sy’n cael eu hymarfer dros ardal helaeth o dde-orllewin Cymru ar hyn o bryd.

 CD1: Y dref wen, Stafell Cynddylan, Angel, Y mab afradlon, Yn y ddawns, Eryr Eli, Pengwern Newydd, Cerdded ‘mlaen, Dy gân, Y Navaho, Gwaed ar yr eira gwyn, Ciliwn i’r mynydd, Mae’r freuddwyd yn fyw, Gaeaf ar y bryniau, Af i’r trefi a’r dinasoedd, Dewch i’r wyl, Wedi blino, Diwrnod newydd arall, Gweledigaeth y llinyn plwm, Daw y dydd, Brwydr Tal y Foel, Wyt ti’n cofio, Addewid, Bro fy mebyd

CD2:  Goleuni yn yr hwyr,  Paid a sentimentaleiddio, Cwn Annwn, Ciliaf i’r anial, Agorwyd dorau’r llygaid, Eira mynydd, Nid i hyn, Rwy’n dy weld, Carol, Aderyn bach, Angharad, Cân y ceiliog, Pan, Dychwelwn, Seren, Cyfeillion yr iaith, Cân yr ymprydiwr, Trechaf treisied, Rhyddid,  Ti yn fy ymyl, Bytholwyrdd, Bro’r Preseli,  Plant yr hud, Cofio,  Edrych i’r gorwel

CD3: Cân yr eos, Ofergoelion, Cariad, Pen Llywelyn, Gweddi Sant Ffransis,  Hiroshima,  John Bull,  Marina, Cyfod golomen, Cestyll ’83,  Gwenllian, Paid rhoi fyny, O Dŷ Ddewi, Dwmp Ty’n Graig, Y ffordd ymlaen, Sgwarnogod Mynachlog Ddu, Nos Iau (I gofio Roy Stephens), ) Ysbryd Rebeca, Nefoedd fach i mi, Strydoedd Llundain, Aros am y dydd, Fe’th garaf di, Lili Marlene, Stesion Strata

CD4: Awn Ymlaen, Dyw hi ddim yn rhy hwyr, Chwilio am y sêr, Dewines Endor, Cân unioni’r cam, Eco filwyr, Welaist ti’r lluniau, Anjela Duval, Sarita, Glas y dorlan, Strydoedd Gwatemala, Albatros, Bro’r twrch trwyth, Ffos y mynach

CD5: Ochr draw i’r mynydd , Maude Gonne, Brawdoliaeth, Mynydd morfil, Breuddwydio’r wybren las , Glas dy lygaid, Hisht w, Cân Wil Wil, Troes y felin, Y curiad yn fy nhraed, Hen gynefin, Bandit yr awr, Tynnu tua thre, Dy garu di sydd raid, Ysbryd y march haearn, Y Groesffordd – Ffin,  Ar doriad gwawr, Y dathliad, Gwrthod bod yn blant bach da, Cân yr adar mân

 

Year
Gweld y manylion llawn