Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Blodau Gwylltion

Llifo Fel Oed

Llifo Fel Oed

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Gwymon CD025

Dyma albym gyntaf Blodau Gwylltion, sef band Manon Steffan Ros ac Elwyn Williams. Cafodd y caneuon eu recordio yn Stiwdio Iawn, Aberystwyth, dros gyfnod o sawl blwyddyn, ac mae arddull y caneuon a'r recordiadau yn agos-atoch ac yn bersonol.

'O'n i'n awyddus i recordio'r albym mewn ffordd eitha' lo-fi, heb or-gynhyrchu, er mwyn iddo fo deimlo fel tasa'r gwrandawr mewn gig byw. Mae hyn yn rhoi arddull bersonol i'r sain. Mae 'na sŵn un o wylanod Aber yng nghefndir un trac, ac ar un arall, mae Greta, merch fach Elwyn, yn ochneidio- mae o'n siwtio'r caneuon yn berffaith, digwydd bod!'

Dechreuodd Manon ac Elwyn berfformio fel Blodau Gwylltion yn sgil bod yn gyd-aelodau o fand Steve Eaves. Daw enw'r band o'r gân draddodiadol, sy'n cael ei chynnwys ar Llifo Fel Oed, Ddoi Di Dei- Pwy sy'n plannu'r blodau gwylltion? Dewisiwyd yr enw am fod gan Manon berthynas glos iawn efo'r gân- arferai ei mam ei chanu iddi pan roedd hi'n ferch fach.

Mae nifer o themâu i'r albym, a daw'r teitl, Llifo Fel Oed, o un o'r rhai amlycaf. "Mae 'na lawer o'r caneuon yn ymwneud efo treigl amser, a sut 'da ni'n ran o ryw batrwm neu gylch,' esbonia Manon. 'Ac mae'r teitl yn dod o gân ola'r albym, Plant Bach, sy'n sôn am wylio'r plant yn tyfu. Mae dŵr yn thema arall ar yr albym, felly roedd hi'n gwneud synnwyr cael y gair llifo yna.'

 

Ceir amrywiaeth mewn arddull a phwnc ar yr albym, gan gynnwys un gân er cof am y diweddar Meredydd Evans. 'Ro'n i wedi cwarfod Merêd a Phyllis unwaith, yn eu cartref yng Nghwm Ystwyth,' meddai Manon. 'Ac roedd o'n enedigol o fy ardal i, Bro Dysynni. Pan fuodd o farw, ro'n i'n teimlo ryw hiraeth cynhenid, bron, ein bod ni wedi colli rhywbeth mor ofnadwy o unigryw, ond ei fod o wedi gadael ffasiwn etifeddiaeth i ni i gyd.'

 Mae llawer o'r caneuon wedi eu dylanwadu gan ddŵr- ceir gyfeiriadau at Aberdyfi, Llyn Cwm Dulyn yn Nantlle ac afon Dyfi. Mae Sarah, cân am un o longau a adeiladwyd yn Aberdyfi ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, yn cyd-fynd gyda phennod o nofel ddiweddaraf Manon, Llanw.

 

  1. Marchlyn
  2. Fy mhader i
  3. Pan o’n i’n fach
  4. Sarah
  5. Ddoi di Dei?
  6. Dwylo Iesu Grist
  7. Gwell i mi ddeud nos da
  8. Pan ei di
  9. Cân Merêd
  10. Llyn Cwm Dulyn
  11. Plant Bach
Year
Gweld y manylion llawn