Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Elin Fflur

Lleuad Llawn

Lleuad Llawn

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2711

Albym newydd sbon gan y gantores sy’ wedi sefydlu ei hun fel un o brif sȇr y byd pop yng Nghymru

Daeth Elin Fflur i sylw’r genedl yn 2002 pan enillodd gystadleuaeth ‘Cȃn i Gymru’, ac ers hynny mae wedi sefydlu ei hun fel un o brif sȇr y byd pop yng Nghymru. Wedi canu gyda nifer o grwpiau, a recordio sawl deuawd enwog, fel cantores unigol mae Elin yn mynd o nerth i nerth. A chafodd gymorth a chyfeiliant nifer o gerddorion, cyfansoddwyr ac offerynwyr gorau Cymru ar y ffordd.

Y rhyfeddod mawr yw fod chwe mlynedd wedi mynd heibio ers ei halbym ddiwethaf. Ond bu’n dal i ganu, ac yn dal i gyfansoddi yn y cyfamser, a bellach mae’n bryd inni groesawu albym newydd yn llawn dop o ganeuon newydd syfrdanol.

Mae sengl yn cynnwys dwy gȃn, “Cloriau cudd” a “Sgwenna dy stori”, ar gael yn awr i’w lawrlwytho, ac y mae’r ddwy yma eisoes wedi eu clywed ar deledu a radio. Yna bydd yr albym gyfan, “Lleuad Llawn” yn cael ei rhyddhau ar Dachwedd 10fed, gyda’r noson lansio yn Galeri Caernarfon ar Dachwedd 13eg am 8.00 o’r gloch. Bydd y tocynnau yn £10.00 yr un, ar gael o Galeri (01286.685222)

Wedi cyfnod gyda’i brawd Ioan yn y grwp Carlotta, ac yna cyfnod gyda’r Moniars, cyhoeddodd Elin ei halbym unigol gynta “Dim Gair” yn 2003. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi  4 albym ac un EP arall: “Harbwr Diogel”, “Cysgodion”, “Ysbryd Efnisien”, “Hafana” a “Goreuon Elin Fflur”.

Mae’r albym bresennol yn adnewyddu partneriaeth gerddorol gyda Sion Llwyd sy’n mynd yn ȏl i’w halbym cyntaf. Yn ogystal ȃ chyfansoddi ar y cyd, cafwyd caneuon hefyd gan Arwel Lloyd (Gildas), Rob Reed, Owen Powell a Hetty Bunker.Cynhyrchwyd yr albym “Lleuad Llawn” gan Rob Reed,  cynhyrchydd ail albym unigol Elin, “Cysgodion”. Mae’r ffotograffiaeth gan Mei Lewis o Mission Photographic.

  1. Cloriau cudd
  2. Gweddi Cariad
  3. Teimlo
  4. Seren Wen
  5. Torri’n Rhydd
  6. Lleuad Llawn
  7. Sgwenna dy stori
  8. Diwedd y Byd
  9. Blino
  10. Dilyn nes y Daw
  11. Du a Gwyn
Year
Gweld y manylion llawn